Am ddeg o'r gloch y bore roedd 20 o gefnogwyr yna ar gyfer yr achos a ffotograffwyr y Daily Post a'r Herald. Doedd dim digon o le i bawb yn y Llys a felly fe fu rhaid i fy nhad aros tu fas yn ystod yr achos.
Ar ol cael fy ffeindio yn 'euog' (sioc) Dyma beth ddwedais wrth yr Ynadon cyn iddyn nhw benderfynnu ar y ddedfryd:
Ga i ddechrau drwy ddweud fy mod yn cymryd cyfrifoldeb llawn am fy ngweithred uniongyrchol yn erbyn archfarchnad Morrisons Bangor ym mis Awst eleni.
Fel y gwyddoch chi, Bangor ydi un o’r llefydd cyntaf i ddioddef wrth i gwmni Morrisons ail-frandio hen siopau Safeways. Yn sgil hyn mae nhw wedi tynnu’r arwyddion dwyieithog i lawr a gosod rhai uniaith Saesneg yn eu lle. Dwi yn ymwybodol fod cangen Caernarfon bellach wedi codi arwyddion dwyieithog. Ond o’r hyn rwy’n deall, cyfrifoldeb rheolwyr unigol yw polisi iaith y gwahanol ganghennau. Rhaid canmol rheolwr Morrisons Caernarfon am sicrhau arwyddion dwyieithog. Ond llai na deg milltir i lawr y lon nid oes braidd unrhyw arwyddion dwyieithog yn eu cangen ym Mangor Uchaf. Nid oes cysondeb ym mholisi iaith y cwmni ac mae hyn yn enghraifft perffaith o’r angen am ddeddf iaith newydd gynhwysfawr.
Fe’m cyflyrwyd i - ac aelodau eraill o Gymdeithas yr Iaith - i weithredu yn uniongyrchol gan nad oes ganddon ni ddim dewis arall. Fel cadeirydd y Gymdeithas, bum mewn trafodaethau gydag Alun Pugh, Gweinidog Iaith Llywodraeth Cynulliad Cymru a wnaeth yn glir i mi nad oedd ganddo unrhyw fwriad i adolygu’r ddeddf bresennol. Er inni wahodd y prifweinidog Rhodri Morgan i drafod y mater tra oedd ar faes Eisteddfod Eryri eleni, cawson ein hanwybyddu yn llwyr ganddo.
Mae’r Llywodraeth yn honni fod y ddarpariaeth bresennol yn ddigonol. Mae hi’n gwbl amlwg na allwn ni ddibynnu ar ewyllys da pob sefydliad a chwmni preifat i ddarparu gwasanaethau dwyieithog. Petai hynny yn wir, fyddai dim rhaid i mi sefyll yma o’ch blaenau chi heddiw.
Fel y gwyddon ni, mae Deddf Iaith 1993 wedi hen golli ei phlwc. Dyw cwmniau preifat fel Morrisons ddim yn dod o dan ambarel gyfyng y ddeddf. Mae hyd yn oed cyrff cyhoeddus - sydd yn dod o dan yr ambarel honno - yn anwybyddu eu cynlluniau iaith, a hynny heb orfod wynebu unrhyw oblygiadau na dirwy na dim.
Dyn ni wedi pwyso a phwyso ar y llywodraeth i wrando arnon ni, ond yn ofer. Yn syml iawn felly, mae’r baich a’r dyletswydd o fynnu dyfodol i’r iaith yn gorwedd yn drwm ar ein ysgwyddau ni.
Mae’r dyfodol yn ansicr i’r iaith Gymraeg. Cyn inni droi rownd, bydd y Llywodraeth wedi llyncu Bwrdd yr Iaith, felly nawr ydi’r amser i fynnu statws teg i’r iaith drwy sicrhau deddf newydd gynhwysfawr. Os gollwn ni’r cyfle hwn, bydd y drws ar gau am ddegawdau i ddod.
Cyfrifoldeb moesol Llywodraeth Cynulliad Cymru yw ymateb i’r alwad ac ysgwyddo cyfrifoldeb drwy arwain y ffordd a chreu deddf iaith fydd yn rhoi’r hawl i bobl Cymru defnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd.
Rydym ni fel aelodau Cymdeithas yr Iaith, yn bwriadu parhau i ymgyrchu yn ddi-flino dros yr hawliau dynol sy’n ddyledus inni, gan ddwysau ein hymgyrchu uniongyrchol yn y misoedd sydd i ddod.
Cyn i mi orffen hoffwn i ddweud un peth arall… Mewn oes lle mae apathi ac anwybodaeth ymysg yr ifanc yn rhemp a chanran uchel o’n cyfoedion ddim yn trafferthu bwrw pleidlais hyd yn oed, rwy’n ymfalchio bod gen i, ac eraill o’r un anian â mi, ddaliadau mor gryf a’n bod yn barod i gael ein herlyn, dirwyo a hyd yn oed ein carcharu dros rhywbeth sydd mor bwysig inni.
Fel y soniais, dwi’n barod i dderbyn y canlyniadau am gymryd rhan yn yr ymgyrch hwn i berswadio Morrisons i adlewyrchu’r gymuned leol ac i dynnu sylw’r llywodraeth at ddiffygion y Ddeddf Iaith bresennol.
Fel y dywedodd rhywun unwaith; “Dros y Gymraeg mae ein brwydr ni. Dros gyfiawnder iddi. Dros gynnal yr heniaith. Ein braint ni yw sefyll ar ein traed a gwneud popeth a allwn drosti.
Derbyniais gostau o £925 am iawndal a £100 o ddirwy am dorri Rhyddhad Amodol (yn dilyn achos Radio Sir Gar ym mis Ebrill). Cyfanswm o £1025. Gofynais os y gallwn dalu yn fisol gan gynnig £10 y mis. Dwi ddim yn wych gyda Mathamateg, ond dwi'n gwybod fod hwnna'n amser maith i dalu'r cyfan yn ol! Gofynodd cadeirydd y Fainc i fi dalu £20 y mis a chytunais.
Yn syth wedi'r achos es i a'r criw o gefnogwyr draw at Swyddfa Llywodraeth Cynulliad Cymru yng Nghaernarfon er mwyn gadael neges iddyn nhw - drwy blastro blaen ei adeilad gyda sticeri yn datgan 'Deddf Iaith Newydd - Dyma'r Cyfle!'