tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Wynebu achos Llys am wrthod llofnodi ffurflen Saesneg

Mair StuartMae aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn wynebu achos llys am iddi wrthod llofnodi ffurflen uniaith Saesneg. Dydd Llun diwethaf cafodd Mair Stuart o'r Barri ei harestio am beintio slogan yn galw am Ddeddf Iaith ar wal adeilad llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd. Bwriad yr heddlu i ddechrau oedd rhoi rhybudd swyddogol iddi a'i rhyddhau.

Rhoddwyd ffurflen i Mair Stuart ei lofnodi yn cydnabod ei bod yn derbyn y rhybudd. Gwrthododd wneud hyn pan sylweddolodd fod y ffurflen o'i blaen yn uniaith Saesneg.

Yn hytrach na chwympo ar eu bai a derbyn nad oeddent yn gweithredu Cynllun Iaith Heddlu De Cymru fe newidiodd yr heddlu yng Ngorsaf Ganolog Caerdydd y cyhuddiad yn erbyn Mair Stuart gan ei chyhuddo bellach o ddifrod troseddol a’i gorchymyn i ymddangos ger bron Llys Ynadon Caerdydd ar Dachwedd 30ain. Meddai Mair Stuart:

"Mae ymddygiad yr heddlu yn yr achos hwn yn gwbl warthus. Ni fyddwn wedi gorfod mynd i'r llys o gwbl pe bai gan Heddlu De Cymru ffurflenni dwyieithog. Mae'r cyfan yn dangos mor aneffeithiol yw Deddf Iaith 1993 a chymaint yw'r angen am un newydd. Yr wyf fi yn gorfod wynebu achos llys am fod hynny yn haws i'r heddlu na dod o hyd i ffurflen Gymraeg imi i'w llofnodi. Mae'r cyfan yn dangos mor ddiwerth yw eu Cynllun Iaith hefyd."

Bydd yn rhaid i Mair wynebu achos llys arall ym Mis Tachwedd. Bydd hefyd yn ymddangos ger bron Llys Ynadon Y Barri ar Dachwedd 22ain am wrthod talu Treth y Cyngor am nad yw Cyngor Sir Bro Morgannwg yn darparu ffurflenni dwyieithog gan gynnwys yn arbennig y ffurflen budd-dal treth y Cyngor. Dywedodd Mair Stuart:

"Pan ddechreuais ysgrifennu at y Cyngor yn Saesneg yn unig y byddai yn gohebu a mi. Erbyn hyn yr wyf yn cael rhyw gymaint o ohebiaeth Gymraeg oddi wrthynt, ond unwaith eto yr wyf yn cael fy hun yn y llys am nad oes rhai ffurflenni pwysig ar gael yn y Gymraeg gan y Cyngor. Mae’n hen bryd cael Deddf Iaith gadarnach fel nad yw trafferthion fel hyn yn codi o hyd ac o hyd."#


Stori oddi ar wefan y Western Mail

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig