Deddf Iaith Newydd: Rali ac yr 16eg aelod i weithredu
Am 12 o’r gloch, dydd Sadwrn y 3ydd o Rhagfyr cynhelir Rali Deddf Iaith – Dyma’r Cyfle ar sgwâr y dref yng Nghaerfyrddin.
Daw’r rali ar yr un diwrnod a’r weithred uniongyrchol olaf yng nghyfres y Gymdeithas er mwyn hoelio sylw Rhodri Morgan a’i lywodraeth at yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Y 16eg aelod o Gymdeithas yr Iaith i weithredu yn y gyfres hon yw Angharad Blythe o Gaerdydd ond yn wreiddiol o Wynedd. Hi yw’r olaf i weithredu yn y gyfres hon cyn y Nadolig a bu hi hefyd yn gyfrifol am beintio slogan ‘Parch i'r Iath!’ ar flaen pencadlys Llywodaeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd.

Daw’r rali a’r weithred heddiw yn dilyn achosion llys pedwar aelodau o’r Gymdeithas. Dedfrydwyd Hywel Griffiths, Huw Lewis, Osian Rhys a Dafydd Morgan Lewis i dalu oddeutu £2,700 rhyngddynt ill pedwar.
Meddai Catrin Dafydd, arweinydd yr ymgyrch dros Deddf Iaith:
“Mae’r Rali heddiw yn dod â’r cyfnod o weithredu uniongyrchol i ben. Mae Llywodraeth y Cynulliad yn parhau i anwybyddu’r alwad am drafodaeth. Mae’n rhyfeddach byth eu bod yn anwybyddu’r alwad am drafodaeth o ystyried y ffaith i Rhodri Morgan atal ei bleidlais yn 1993 pan basiwyd y Ddeddf Iaith sydd mewn grym yn bresennol. Mae yna gonsensws bellach ymysg arbennigwyr ieithyddol a’r gwrth-bleidiau.”
“Ymhellach, mae Rhodri Morgan wedi dileu cynnwys rhan helaeth o’r ddeddf bresennol o benderfynu diddymu Bwrdd yr Iaith Gymraeg ac felly mae Deddf Iaith Newydd yn annorfod. Pa fath o ddeddf sy’n dod yn lle Deddf 1993 yw’r drafodaeth dylai gael ei chynnal.”
Bydd Adam Price Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr a Rhodri Glyn Thomas, Aelod Cynulliad Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr yn annerch y dorf yn Rali Deddf Iaith – Dyma’r cyfle o 12 o’r gloch ymlaen.
Stori oddi ar wefan y Carmarthen Journal
Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
Stori oddi ar wefan y Western Mail
Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith
| Morgannwg Gwent
| Newyddion
.
|