Cilmeri 2006

Es i draw i Gilmeri heddiw i gofio am Llywelyn Ein Llyw Olaf, gwir Dywysog olaf Cymru. Estynwyd gwahoddiad i gynrychiolaeth o Gymdeithas yr Iaith i ddod i Gilmeri er mwyn dweud gair neu ddau.
Soniais wrth yr haner cant a oedd wedi ymgynyll o amgylch cofeb Llywelyn am ymgyrch gyfredol y Gymdeithas dros Deddf Iaith Newydd.
Ymysg y siaradwyr eraill oedd yr Aelod Seneddol lleol, Roger Williams a John Davies, Cadeirydd Ymddiriedolaeth Abaty Cwm Hir. Cafwyd caneuon gwladgarol gan Gor Cochion Caerdydd a darlleniad gan Rhobert ap Steffan o gerdd Gerallt Lloyd Owen, 'Cilmeri' .
Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
.
|