Rali Calan Deddf Iaith

Bu Rali'r Calan yn llwyddiant mawr. Yn anffodus nes i fethu ffeindio fy ffordd i lawr i'r Brif Ddinas mewn pryd, gan fy mod i lan yng Nghaernarfon ar y pryd.
Serch hynny mae'n debyg bod 200 yn bresennol a cafwyd areithiau gan Steffan Webb o Fenter Iaith Rhondda Taf, Catrin Dafydd a Menna Machreth.
Targedwyd Orange, Woolwich, Dixons a Starbucks gyda sticeri gludiog yn galw am Ddeddf Iaith.
Cytunodd rheolwyr y pedwar siop i gyfarfod a'r Gymdeithas i drafod polisiau iaith Gymraeg. Bydd Cell Caerdydd yn trefnu cyfarfodydd gyda nhw yn yr wythnesau sydd i ddod.

Diolch i Nia Williams am dynnu'r lluniau.
Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
.
|