|
|||||
|
|
|
Rhoi stwr i Brif Arolygydd Heddlu De Cymru
Prynhawn 'ma es i a Mair Stuart i gyfarfod â Andy Morgan, Prif Arolygydd Heddlu De Cymru yn Swyddfa Heddlu'r Tyllgoed, er mwyn rhoi stwr iddo fe! Diben y cyfarfod oedd gofyn i Heddlu De Cymru esbonio eu gweithredoedd yn dilyn arestio Mair ym mis Tachwedd 2006. Roedd Mair, o'r Barri, yn un o 16 aelod o'r Gymdeithas a weithredoedd yn uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Cynulliad Cymru, rhwng Hydref a Rhagfyr llynedd, fel rhan o'n hymgyrch dros Deddf Iaith Newydd. Ar ol cael ei rhoi yn y ddalfa a chael ei holi yn Gymraeg, rhoddwyd rhybudd swyddogol (caution) gan yr Heddlu i Mair. Serch hynny roedd y ffurflen rhybudd swyddogol yn uniaith Saesneg. Pan ofynnodd Mair amdano yn Gymraeg, dywedoddd yr Heddwesion wrthi nad oedd ar gael, ac os na fyddai hi yn arwyddo'r ffurflen uniaith Saesneg yna bydde hi yn cael ei chyuddo o ddifrod troseddol! Mwy yma. Cafodd y stori ei rhedeg yn y Western Mail hefyd. O dan eu Cynllun Iaith ac hefyd o dan Deddf Iaith 1993 mae'n rheidrwydd ar yr Heddlu i ddarparu'r ddogfen hyn yn Gymraeg. Dwedais hyn wrth Andy Morgan gan ychwanegu bod yr yr hyn ddigwyddodd i Mair yn warthus ac yn hollol anerbyniol. Esboniais iddo petase nhw wedi torri cyfreithiau yn ymwneud a hawliau anabledd neu rhywioldeb yna byddai Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru, Ms Barbara Wilding o flaen y llys ac y byddent yn cael eu cosbi. Wrth gwrs, o dan y ddeddf bresennol does dim cosb am dorri'r Deddf - dim ond llythyr blin gan Fwrdd yr Iaith. Cafodd Mair Stuart ymddiheiriad Swyddogol gan Andy a dywedodd wrthi fod Heddlu De Cymru bellach wedi tynnu'r cyhuddiad yn ol.
Dywedodd y Prif Arolygydd wrthom nad oedd yn bosib cael fersiwn Cymraeg o'r ffurflen ar system gyfrifiadurol Heddlu De Cymru, ond byddai hyn yn bosib erbyn mis Ebrill pan fydda nhw'n diweddaru'r system. Yn y cyfamser dywedodd fod fersiwn wedi ei argraffu o'r ffurflen ar gael mewn gorsafoedd Heddlu yn rhanbarth De Cymru. Gofynais iddoroi sicrwydd i mi bod y ffurflen rhybudd swyddogol ar gael ym mhob un Swyddfa Heddlu yn rhanbarth Heddlu De Cymru. Dywedodd y gallai "Sicrhau mor bell ag y gallai" a'i fod wedi rhoi gwybod i bob Prif Swyddog ynglyn a darpariaeth y ffurflen. Cyfaddefod fod yna "fylchau yn ein proses"ac "Ni ddylsau'r cam hyn wedi digwydd yn y lle cyntaf - gallaf eich sicrhau na fydd posibilrwydd fydd hyn yn digwydd eto" Dywedodd wrthom y bydde ni yn gweld "Newid dyddiol o ran agwedd" gan Heddlu De Cymru. Dywedodd Mair wrtho bod agwedd yr Heddweision a ddeliodd gyda hi yn wrth-Gymraeg a'i bod wedi dweud wrthi taw gwastraff o amser fyddai cael cyfieithydd. Dywedodd Andy y byddai yn paratoi adroddiad i Ddirprwy Prif Gwnstabl Heddlu De Cymru"...ac yn gofyn i Mr Fransis i sicrhau bod teimladau siaradwyr Cymraeg yn Ne Cymru yn cael eu parchu" Cyn i ni fynd i mewn i'r cyfarfod fe es i a Mair am dro o gwmpas yr Orsaf a sylwi fod mwyafrif o'r arwyddion ar ddangos i'r cyhoedd yn uniaith Saesneg. Dywedodd Mair wrtho fod hyn yn hollol anerbyniol a'u bod (unwaith eto) yn torri cyfraith gwlad. Es i a Mair draw at dderbynfa Gorsaf Heddlu'r Tyllgoed er mwyn dangos nifer o enghreiffttiau i'r Prif-Arolygydd. Dywedodd wrthym y byddai yn sicrhau fod arwyddion dwyieithog ganddynt o hyn ymlaen. Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||