tafod.jpg hafan cymdeithas.com
deiseb.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Methiant arall gan Heddlu De Cymru i ddarparu gwasanaeth Cymraeg

llys_hwlffordd_02bach.jpg

Nid y ffordd mwyaf delfrydol i dreuilo prynhawn dydd Sul gyda hymdingar o benmaenmawr ond es i a Angharad Elen draw am dro i Orsaf Heddlu Canol Caerdydd prynhawn 'ma.

Yn dilyn ei gweithred drod Deddf Iaith Newydd ddechrau mis Rhagfyr llynedd, rhyddhawyd Angharad ar fechniaeth ac heb ei chyhuddo gan Heddlu De Cymru.

Termau'r fechniaeth oedd nad oedd hi i fynd yn agos na 200 medr at unrhyw adeilad y Llywodraeth (ma adeiladau'r Llywodraeth yn cynnwys canolfannau gwaith - lwcus bod hi ddim ar y dol!) ac ei bod hi i ildio ei hyn i'r Swyddfa Heddlu Ganolog yng Nghaerdydd ar y 15ed o Ionawr am 2pm.

Pan aeth Angharad at y ddesg i gyflwyno ei hyn dwedwyd nad oedd y swyddog a'i harestiodd hi ym Mis Tachwedd yn gallu siarad Cymraeg a nad oedd neb yna yn siarad Cymraeg. Mae Angharad bellach yn byw yn Llandwrog ger Caernarfon ac roedd hi wedi teithio'r holl ffordd i Gaerdydd er mwyn ildio ei hun fel a orchymwyd gan Heddlu De Cymru. Roedden nhw yn gwbod yn iawn ei bod hi yn gorfod bod yn bresennol yna heddiw, ond nid oeddent wedi paratoi unrhywbeth o gwbwl a dywedodd y Sarjant oedd ar ddyletswydd y byddai'n rhaid iddi ddychwelyd rhywbryd eto!!! Esboniodd Angharad ei bod yn byw bron 200 milltir i ffwrdd a dywedodd yr Heddwas y gallai ddychwelyd ar y 4ydd o Fawrth!

Fe fydd hyn yn 4 mis wedi'r 'drosedd' wreiddiol. 4 mis o fod ar fechniaeth. 4 mis o aros am gyhuddiad. Mae'r peth yn wrthun!

Fe fydd Angharad yn gwneud cwyn swyddogol i Brif Gwnsabl Heddlu De Cymru am ei methiant i ddelio gyda hi yn brydlon ac am ei methiant i ddarparu gwasanaeth yn y Gymraeg.

Bydd hi hefyd yn codi'r mater hyn yn ei achos llys (fydd eleni, gobeithio!) ac am y ffaith iddi hi dderbyn taflen fechniaieth uniaith Saesneg.

Hyn i gyd yn dilyn addewidion Andy Morgan, Prif Arolygydd Heddlu De Cymru, ddiwrnodau yng nghynt y byddwn ni'n gweld, "Newid dyddiol o ran agwedd" gan Heddlu De Cymru tuag at y Gymraeg.

Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
.

Newyddion
Croesawu llythyr cyfreithwyr am fesur iaith cryfach
18 Mawrth, 2010
Llywodraeth yn 'camarwain y cyhoedd' ar y mesur iaith, cwyn swyddogol Cymdeithas
10 Mawrth, 2010
Cymdeithas yr Iaith yn galw ar bobl Ceredigion i wrthwynebu symud stiwdio Radio Ceredigion i Arberth
8 Mawrth, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Taith Coleg Ffederal - Caerdydd
16 Mawrth, 2010
Dyfodol y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor?
17 Mawrth, 2010
Taith Coleg Ffederal - Aberystwyth
18 Mawrth, 2010
Ffair Lyfrau Cell Caerdydd
21 , 2010
Noson Lansio cyfrol chwyldroadol newydd - GAIR I GELL
1 Ebrill, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig