tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Datganiad Bwrdd yr Iaith yn fuddugoliaeth i'r Gymdeithas

deddf_iaith_newydd.gif Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn croesawu datganiad Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod angen adolygu Deddf Iaith 1993. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:

"Mae’r datganiad hwn wnaed gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg heddiw yn gosod y Bwrdd yn yr un gwersyll â’r rhai sydd fel ni yn galw am Ddeddf Iaith gryfach. Croesewir hefyd eu pwyslais ar 'hawliau ieithyddol' ac mae’r son am 'reoleiddiwr iaith' yn ddiddorol."

"Bellach Alun Pugh y Gweinidog Diwylliant a Llywodraeth y Cynulliad yw’r unig rai sy’n tynnu’n groes i’r consensws sydd wedi codi yng Nghymru am yr angen an Ddeddf Iaith gryfach."

"Fel Cymdeithas credwn y gallai’r adolygiad hwnnw ddechrau yn y cyfarfod cyhoeddus ar Ddeddf Iaith y mae’r Gymdeithas yn ei drefnu yng Nghanolfan y Mileniwm Caerdydd am 7 o’r gloch nos Fawrth Ionawr 24ain."

"Ymysg y rhai sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth i’r cyfarfod hwnnw mae yr Arglwydd Gwilym Prys Davies, Eileen Beasley, Dafydd Wigley, Jill Evans ASE, Meredydd Evans, Robyn Lewis, Elfyn Llwyd AS ac Archdderwydd Cymru Selwyn Griffith."

"Bydd John Elfed Jones Cadeirydd cyntaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Dr Colin Williams aelod o’r Bwrdd presennol yn cymryd rhan yn y cyfarfod."

"Mae’n braf gweld fod holl weithgarwch Cymdeithas yr Iaith Gymraeg dros Ddeddf Iaith gryfach bellach yn dwyn ffrwyth."


Bwrdd Yr Iaith Gymraeg Yn Cyhoeddi Papur Safbwynt Ar Sefyllfa Ddeddfwriaethol Y Gymraeg - Gwefan Bwrdd yr Iaith
Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
Stori o'r Daily Post
Stori oddi ar wefan y Western Mail
Stori 2 oddi ar wefan y Western Mail
Stori oddi ar wefan BBC Wales

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig