|
|||||
|
|
|
Carcharu Gwenno am 5 niwrnod
Ym mis Ebrill 2005, fe'i cafwyd yn euog gan Ynadon Hwlffordd o achosi difrod i eiddo Radio Sir Gar yn Arberth a gorchmynwyd iddi dalu costau llys ac iawndal hyd werth £200 ond gwrthododd Gwenno dalu iawndal i'r Orsaf Radio a fu'n destun ymchwiliad gan Ofcom llynedd oherwydd ei diffyg defnydd o'r Gymraeg.
Yn ei datganiad i'r Ynadon dywedodd Gwenno: "Mae'r Orsaf Radio hon yn dwyn enw'r sir y cefais i fy magu ynddi, ac y mae eu diffyg defnydd o'r Gymraeg yn warthus. Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid iddi fod yng nghanol yr holl ddatblygiadau sy'n berthnasol i bobl ifainc fel radio leol." "Mae'r hen Ddeddf Iaith yn perthyn i oes a fu. Rhaid wrth Ddeddf Iaith newydd a fydd yn sicrhau lle i'r Gymraeg yn holl gyfryngau a datblygiadau technolegol y ganrif newydd."
3pm Cardiau Ffolant at Garcharor Mae dwsinau o gefnogwyr Cymdeithas yr Iaith yn danfon cardiau Ffolant at Gwenno Teifi yng ngharchar Eastwood Park ger Caerloyw. Bydd y fyfyrwraig 19 oed yn treulio Dydd Ffolant yn y carchar fel rhan o ddedfryd 5 diwrnod am wrthod talu costau ac iawndal fel rhan o'r Ymgyrch Deddf iaith Newydd. Gwenno Teifi Ffransis
4.45pm Gwenno yn y carchar Mae Gwenno Teifi wedi cyrraedd carchar Eastwood Park ger Caerloyw erbyn hyn, ac wedi ffonio adref o'r carchar. Mae swyddogion y Llys wedi dweud wrth Gwenno y bydd rhaid iddi aros yn y carchar am y 5 diwrnod llawn. Mae Swyddogion y carchar wedi dweud wrth ei theulu bod siawns y caiff ei rhyddhau ymhen tridiau. Daw cadarnhad yfory (Mawrth 14/02) a bydd manylion llawn yma am gyfarfod croesawu Gwenno nôl i Aberystwyth. Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd Mwy yn yr un categori(au):
Caerfyrddin Penfro
|
Newyddion
|
|
||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||