tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Digwyddiadau rhyfedd yn neuadd y sir, Caerfyrddin

Cadwn Ein Hysgolion.JPGBydd digwyddiadau go ryfedd yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin heddiw. Am 10am bydd Cymdeithas yr Iaith yn cynnal Arwerthiant Cyhoeddus o asedau nifer o swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor Sir - a hynny heb eu caniatad.

Yn rhyfeddach fyth, bydd cyfarfod o'r Cyngor Llawn tu fewn yn terfynoli cyllideb ar gyfer Ysgolion Ardal mawr newydd i gymryd lle ysgolion pentref dros y blynyddoedd nesaf - a hynny heb ofyn caniatad y cymunedau na dechrau prosesau ymgynghori lleol. Esbonia trefnydd lleol Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd:

"Dyw'r Cyngor ddim hyd yn oed wedi penderfynu eto ar ddyddiadau ar gyfer prosesau ymgynghorol dadleuol ar ddyfodol yr Ysgolion Pentref. Ac eto mae'r swyddogion a'r Bwrdd Gweithredol yn gofyn i gynghorwyr gymeradwyo cyllidebau am Ysgolion Ardal newydd i gymryd eu lle!!!! Mae hyn yn gwneud ffars o ymgynghori yn y pen draw, ac yn datguddio dirmyg y Cyngor tuag at y cymunedau lleol. Dyma brofi'r pwynt a wnaed gan y Gymdeithas mai'r unig ffordd ddemocrataidd ymlaen oedd cyfnod o ymgynghori ledled y sir ar yr holl strategaeth."

"Mae'r Cyngor yn rhagfarnu'r holl brosesau ymgynghori trwy gymeradwyo ymlaen llaw gyllideb ar gyfer Ysgolion Ardal. Mewn gwirionedd, maent yn gwerthu'r Ysgolion Pentref - fel rhan-daliad am adeiladau newydd ysgolion canolog - heb ofyn am ganiatad y llywodraethwyr,rhieni a staff. Fel symbol o hyn, yr ydym yn arwerthu - hefyd heb ofyn caniatad - rai o brif asedau swyddogion ac aelodau cabinet y Cyngor. Fe aiff pob elw at yr ymgyrch dros yr Ysgolion Pentref."

Ymhlith yr asedau a arwerthir ar risiau Neuadd y Sir am 10am yfory (Mawrth 28/2), y mae:

* Ty sylweddol y Prif Weithredwr Mark James yn Nhref Caerfyrddin
* Car teuluol Arweinydd y Cyngor, Meryl Gravell
* Cinio gyda Mary Thomas (Aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb dros addysg)

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig