tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Croeso i Gymru - £88,600 - Nid oes angen y Gymraeg

cyngor_sir_caerfyrddin.JPGMae Cymdeithas yr Iaith wedi condemnio Cyngor Sir Gâr am feddwl, unwaith eto, fod y bobl leol yn rhy dwp i lenwi un o brif swyddi'r Cyngor Sir. Mae'r swydd Prif Weithredwr Cynorthwyol (Rheoli Pobl a Pherfformiad) wedi ei hysbysebu am £88,600pa gydag amod am 'Sgiliau Cyfathrebu' ei fod yn hanfodol i ymgeiswyr gael 'Sgiliau Siarad ac Ysgrifennu Saesneg'. Nid oes amod hyd yn oed fod y Gymraeg yn ddymunol.

Wrth sylwadu ar y sefyllfa, dywed Sioned Elin, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yn Sir Gâr:

"Fe fydd Cyngor Sir Gâr, yn unol a'u harfer, eto fyth yn chwilio am yr 'ymgeisydd gorau' tu allan i'r sir i gymeryd un o'r prif swyddi, gan beri digalondid pellach ymysg y staff presennol. Yr esgus a ddefnyddir dros beidio gofyn am gymhwyster yn y Gymraeg yw na fydd yn dod i gysylltiad â'r cyhoedd, ond yn hytrach yn canolbwytio ar weinyddiaeth fewnol. Mae'n wybyddus i bawb fod Cyngor Sir Gâr yn gorff cyhoeddus sydd yn defnyddio ein harian ni i gynnal eu holl fusnes yn Saesneg, tra'n rhoi wyneb dwyieithog ffug ymlaen i'r cyhoedd."

" Y peth olaf y bydden ni am ei weld yw apwyntio siaradwr Cymraeg a fydd yn gwneud ei waith i gyd drwy'r Saesneg. Os fydd y Gymraeg i oroesi fel iaith fyw yn y sir, fe fydd yn rhaid i Gyngor Sir Gâr osod esiampl drwy gynnal ei fusnes ei hun drwy gyfrwng y Gymraeg, yn amlwg wedyn fe fydd y gallu i siarad Cymraeg yn hanfodol i'r Swyddogion."

Dyddiad Cau y swydd: 16eg o Fawrth
Dolen: Proffil Swydd a Manyleb Person (PDF - 2mb)


£88k county job ad angers Cymdeithas - icwales.co.uk
Council accused of false bilingual policy - thisissouthwales.co.uk

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig