tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Achos tai Penmorfa - Prawf o anallu'r drefn gynllunio i ddiogelu lles yr Iaith Gymraeg

bawd_deddf_eiddo.jpgYn nhyb Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, mae'r datblygiad arfaethiedig o ddeuddeg aneddle newydd ar safle'r Wern ym Mhenmorfa, ger Porthmadog, yn brawf pellach o'r modd nad yw lles yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw teilwng mewn perthynas a phenderfyniadau ym maes cynllunio.

Am hynny, mae'r mudiad eisoes wedi ysgrifennu at Carwyn Jones AC, sef Gweinidog Cynllunio Llywodraeth y Cynulliad, gan bwysleisio bod angen iddo roi sylw brys i'r mater hwn. Yn ogystal, bydd y Gymdeithas yn ystyried dros y dyddiau nesaf pa gamau ymgyrchu pellach y gellid eu cymryd. Meddai Huw Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Mae'r ffaith fod y datblygiad hwn wedi'i gyfeirio ymlaen, er gwaetha'r ffaith fod Cyngor Tref Porthmadog a Phwyllgor Cynlluio Dwyfor wedi'i wrthwynebu ar sail ei effaith posib ar yr iaith Gymraeg, yn brawf pellach o'r modd nad yw lles yr iaith yn fater sydd yn meddu ar statws teilwng ym maes cynlluio."

"Ar hyn o bryd, nid oes gan bwyllgorau cynllunio lleol ganllawiau clir sydd yn galluogi iddynt wrthod datblygiadau ar sail eu effaith posib ar ragolygon y Gymraeg. Yn absenoldeb canllawiau o'r fath, mae posib iddynt wynebu achosion apel costus ac felly i raddau helaeth mae eu dwylo wedi'u clymu."

"Bu disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad ddarparu canllawiau o'r fath ers 2002, ond nid oes dim byd wedi ymddangos. Ond, tra bod y Llywodraeth yn llusgo ei thraed caiff penderfyniadau pwysig eu gwneud a fydd yn effeithio'n fawr ar ddyfodol y Gymraeg."

"Gan fod hwn yn 'achos prawf' pwysig, bydd Cymdeithas yr Iaith yn ystyried dros y dyddiau nesaf pa gamau ymgyrchu pellach ddylid eu cymryd. Ar ben hynny rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog Cynllunio"

Mwy yn yr un categori(au): Cymunedau Rhydd | Gwynedd Môn | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig