tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Llywodraeth y Cynulliad ar fin chwyldroi addysg uwch Cymraeg?

Protest Coleg FfederalAm 1pm yfory (Dydd Sadwrn 3ydd o Fehefin) cynhelir seminar chwyldroadol yn Uned Llywodraeth y Cynulliad ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun. Bydd y seminar yn ystyried cynnig Cymdeithas yr Iaith y dylid sefydlu Coleg Aml-safle Cymraeg.

Mae hwn yn gynnig blaengar iawn gan ei fod yn ymdrech i greu sefydliad addysg uwch Gymraeg a fyddai’n cryfhau a gwasanaethu anghenion cymunedau Cymru’n hytrach na bod yn ddynwarediad gwan o brifysgolion Lloegr. Byddai’r addysg yn cael ei chynnig nid yn unig ar feysydd colegol, ond hefyd mewn safleoedd cymunedol a gweithleoedd.

Mae’r cyfarfod yn sicr yn haeddu’i le yn uned Llywodraeth y Cynulliad gan fod yma ymgais i chwyldroi addysg uwch yng Nghymru trwy newid nid yn unig cyfrwng yr addysg, ond hefyd yr holl gynnwys a’r dull o gyflwyno’r addysg yn ogystal a chreu dull newydd o gyllido addysg uwch. Mae’r cynnig yn ddim llai nag ymdrech i dorri i lawr y gwahanfur rhwng y “byd addysg” a’r “byd go iawn”.

Byddai myfyrwyr – yn llawn amser a rhai rhan amser mewn gwaith – yn derbyn llawer o’u profiad addysgol trwy gyflawni prosiectau ymchwil mewn cymunedau lleol. Yn lle cyflogi a chynnal y pla o ymgynghorwyr sydd gennym yng Nghymru, gallai Cynghorau Sir a chyrff cyhoeddus fel Awdurdodau Dwr ac Iechyd a Llywodraeth y Cynulliad ei hunan gomisiynu ymchwil gan y Coleg aml-safle i greu Astudiaethau Effaith o wahanol ddatblygiadau ar economi, ecoleg, diwylliant a gwead cymdeithasol Cymru.

Gallai myfyrwyr llawn amser dreulio peth o’u hamser yn arwain cyrsiau mewn addysg gymunedol gan gyfarwyddo ymchwil cymunedol pellach. Byddai’r Cyrff cyhoeddus yn talu’r Coleg am eu gwaith, a byddai myfyrwyr yn derbyn profiad gwaith felly ochr yn ochr a’u profiad addysgol.

Dywed Ffred Ffransis (llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar addysg), “Trwy’r cynnig hwn, gallai Coleg aml-safle Cymraeg fod yn esiampl flaengar ar gyfer addysg uwch yn gyffredinol gan wasanaethu’n pobl yn lle ceisio cystadlu gyda phrifysgolion eraill mewn bychanfyd addysgol.

Mae’n amserol iawn fod y seminar hwn yn cael ei gynnal yn uned Llywodraeth y Cynulliad gan eu bod wedi comisiynu Asesiad Opsiynau o ran y dull gorau o ddatblgyu addysg uwch gyfrwng-Gymraeg. Disgwylir penderfyniad yn fuan gan y Gweinidog Addysg, Jane Davidson sydd wedi derbyn gwahoddiad i siarad yn y seminar hwn.”

O.N. Efallai – er mwyn osgoi unrhyw gamddeall – y dylid egluro mai Cymdeithas yr Iaith, nifd Llywodraeth y Cynulliad, sy’n trefnu’r seminar hwn er iddo gael ei gynnal yn uned Llywodraeth y Cynulliad. Sylwodd Swyddog Gweinyddol Cymdeithas yr Iaith, Dafydd Morgan Lewis 'fod mwy o le yno nag yn uned y Gymdeithas'

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Clwyd | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig