|
|||||
|
|
|
Anrhydeddu Eileen Beasley yng ngwyl fawr Cymdeithas yr Iaith
Roedd safiad cadarn Ms Beasley a'i theulu yn ystod y 1950au yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o Gymry a aeth ati wedyn i ymgyrchu dros gyfiawnder i'r Gymraeg. Dyma ymgyrchu sydd yn parhau heddiw gyda galwad Cymdeihas yr Iaith am Ddeddf Iaith Newydd. Caiff y seremoni hon ei chynnal fel rhan o Wyl Fawr Cymdeithas yr Iaith Gymraeg a gynhelir yn Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth. Bydd y seremoni yn cael ei harwain gan yr Athro Hywel Teifi Edwards ac fel rhan o'r digwyddiad cyflwynir cywydd arbennig i Ms Beasley sydd wedi ei baratoi gan y Prifardd Gerallt Lloyd Owen. Wedi anrhydeddu Eileen Beasley, bydd y digwyddiad yn troi'n rali fawr dros Ddeddf Iaith Newydd. Ymhlith y bobl hynny fydd yn siarad yn y rali bydd Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru. Yn ogystal, darllenir negeseuon o gefnogaeth gan Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis Ac o'r Blaid Geidwadol. Meddai Catrin Dafydd, arweinydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd: "Flynyddoedd yn ol gwnaeth Eileen Beasley a'i theulu safiad dewr, gan bwysleisio y dylai fod gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio'r Gymraeg ac i dderbyn gwasanaethau trwy gyfrwng yr iaith. Ers hynny, gwelwyd nifer o ddatblygiadau pwysig, ond eto i gyd, mae pobl Cymru yn parhau i wynebu rhwystrau pan yn ceisio defnyddio'r Gymraeg wrth gyflawni tasgiau dyddiol." "Mae'n rhaid i'r Llywodraeth gyflwyno Deddf Iaith Newydd a fydd yn sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol sylfaenol i bobl Cymru. Mae consensws sylweddol yn datblygu bellach o blaid mesur o'r fath. Dyma gonsensws sy'n cwmpasu Cymdeithas yr iaith, Bwrdd yr Iaith, nifer o'r gwrthbleidiau ac hefyd unigolion dylanwadol megis John Elfed Jones a'r Arglwydd Gwilym Prys Davies. O ganlyniad bydd y rali a gynhelir yn ystod yr Wyl dydd Sadwrn yma yn ddigwyddiad amserol iawn." Bydd yr Wyl Fawr yn Aberystwyth yn cael ei chynnal ar ddiwedd wythnos brysur i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Yfory (Mehefin 6) am 2 y prynhawn, bydd Angharad Blythe o Landwrog yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd. Mae Angharad yn wynebu cyhuddiadau o ddifrod troseddol ar ol iddi gymryd rhan yn ymgyrch weithredol Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Mae hi'n un o'r 36 o aelodau sydd wedi gweithredu yn yr ymgyrch hon ers dechrau Hydref 2005. Nodyn ar hanes Eileen Beasley Yn 1952 symudodd Eileen Beasley a Threfor Beasley i fyw yn Llangennech Sir Gaerfyrddin. Dyna pryd y gofynnodd i Gyngor Gwledig Llanelli am bapur treth yn y Gymraeg. Gwrthodwyd hyn iddynt a bu iddynt hwythau yn eu tro wrthod talu'r Gwysiwyd hwy gerbron y llys ddwsin o weithiau. Mynnai'r ddau fod yr achos yn cael ei gynnal yn y Gymraeg. Bu'r beiliaid yn casglu dodrefn o'u ty dair gwaith, a'r dodrefn wrth gwrs yn werth llawer mwy na'r dreth a hawlid. Aeth hyn ymlaen am wyth mlynedd. Yn 1960 cafodd Mr a Mrs Beasley eu papur treth yn ddwyieithog. Trafodwyd yr achos yma gryn dipyn yn narlith radio enwog Saunders Lewis, 'Tynged yr Iaith' a ddarlledwyd ym 1962. Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion
| Deddf Iaith
| Newyddion
|
|
|||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
| nôl i'r brig | ||||