tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Barnwr i gwyno wrth yr heddlu am fod gwys yn uniaith Saesneg

Angharad BlythePrynhawn yma yn Llys Ynadon Caerdydd cafodd achos Llys yn erbyn Angharad Blythe ei ohirio tan Awst 2il am fod yr wys a dderbyniodd i ymddangos ger bron y llys heddiw yn uniaith Saesneg.

Beiodd y barnwr yn yr achos Heddlu De Cymru am hyn a dywedodd y byddai yn anfon cwyn swyddogol atynt. Cyhuddodd yr heddlu o wyrdroi drefn gyfreithiol drwy beidio cadw at ganllawiau'r Cynllun Iaith.

Angharad Blythe yw'r aelod diweddaraf o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymddangos gerbron y llysoedd fel rhan o ymgyrch weithredol y mudiad dros
Ddeddf Iaith Newydd. Ers mis Hydref mae 40 o aelodau wedi cymryd rhan yn yr ymgyrch weithredol hon.

blythe-caerdydd.jpg

Bydd yr ymgyrchu yn parhau dydd Sadwrn yma (Mehefin 10). Bryd hynny, am 2 y prynhawn yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth, cynhelir gwyl fawr i alw am Ddeddf Iaith Newydd. Trefnir yr wyl gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg ac fe'i chefnogir gan lu o fudiadau Cymreig, megis Merched y Wawr, UCAC, Plaid Cymru, Cymuned, Cylch yr Iaith ac UMCA.

Ymhlith y rhai fydd yn cymryd rhan, mae Ieuan Wyn Jones AC, arweinydd Plaid Cymru. Yn ogystal, darlenir negeseuon o gefnogaeth gan Eleanor Burnham AC o'r Democratiaid Rhyddfrydol a Lisa Francis AC o'r Blaid Geidwadol. Ceir anerchiadau hefyd gan aelodau o Ferched y Wawr, UCAC ac UMCA yn ogystal a chyfraniadau hwyliog gan feirydd, bandiau a rapwyr enwog.

Agorir yr wyl gyda seremoni arbennig i anrhydeddu cyfraniad Eileen Beasley i fywyd Cymru. Dyma'r wraig a adnabyddir gan lawer fel Rosa Parks y mudiad iaith. Arweinir y seremoni hon gan yr Athro Hywel Teifi Edwards.

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig