|
|
|
Gwyl Fawr Deddf Iaith, Aberystwyth

Bu Gwyl Fawr Deddf Iaith Cymdeithas yr Iaith yn llwyddiant ysgubol. Cafwyd cefnogaeth a datganiadau cadarnhaol ynglyn a’r alwad am ddeddf iaith newydd gan gynrychiolwyr o Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr ynghyd a nifer o fudiadau fel UCAC, UMCA a Merched y Wawr.
Bellach mae yna gonsenws gwleidyddol o blaid adolygu deddf iaith ddiffygiol 1993 – a bydd hyn yn rhan o faniffesto’r gwrthbleidiau ar gyfer etholiadau’r Cynulliad mis Mai nesaf. Mae hwn yn gam pwysig ymlaen ar gyfer yr ymgyrch. Mae synnwyr cyffredin yn dweud bod angen statws swyddogol i’r Gymraeg ond mae Llywodraeth Lafur y Cynulliad yn parhau a’u polisi o ddifaterwch ac amharch llwyr tuag at y Gymraeg. Statws ymylol sydd i’r Gymraeg nid statws swyddogol.
Cafwyd sawl anerchiad difyr a deifiol yn ystod yr wyl, ynghyd a pherfformiadau gan y bandiau Coda a Pala. Roedd hi hefyd yn fraint ac anrhydedd cael talu gwrogaeth i Eileen Beasley a ymgyrchodd mor ddiflino dros y Gymraeg, ynghyd a’i gwr Trefor. Cyn geni Cymdeithas yr Iaith, bu’r ddau yma yn ysbrydoliaeth i nifer o Gymry pan wrthodasant talu’r dreth am nad oedd y gwasanaethau priodol ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg. Cawsant eu herlid yn ddi-baid, bu’n rhaid iddynt wynebu llys barn nifer o weithiau a chymerwyd eu heiddo oddi arnynt am iddynt wrthod derbyn y drefn. Roedd eu brwydr yn un unig ac arloesol ac mae ein dyled iddynt yn fwy nag all yr un ohonom ei fesur. Serch hynny, hanner canrif yn ddiweddarach, rydyn ni’n dal i ymgyrchu dros yr un egwyddor, yr un hawliau dynol sylfaenol. Ein hawl i fedru defnyddio, gweld a chlywed yr iaith ymhob agwedd ar fywyd.
Cyflwynwyd cywydd iddi a ysgrifennwyd gan Gerallt Lloyd Owen gan Angharad Blythe, un o’r unfed aelod ar bymtheg sydd wedi gweithredu dros yr alwad am ddeddf iaith newydd ers mis Medi y llynedd. Bydd Angharad wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd ar yr 2ail o Awst am iddi chwistrellu slogan yn galw am Deddf Iaith Newydd ar waliau Pencadlys Llywodraeth y Cynulliad yng Nghaerdydd nol ym mis Rhagfyr y llynedd.

Y Siaradwyr: (Chwith i'r Dde) Gwyneth Morus Jones - Merched y Wawr; Dilwyn Roberts-Jones (UCAC); Ieuan Wyn Jones (Plaid Cymru); Yr Arglwydd Roberts (Rhyddfrydiad); Siwan Tomos (UMCA); Yr Athro Hywel Teifi Edwards.
Mwy yn yr un categori(au): Blog Steffan
.
|
GIG: Heather Jones, Al Lewis, Sweet Baboo, DJ Dyl Mei CAERDYDD
22 Mai, 2008
|
Cyfarfod "Cadwn Ein Hysgolion Pentrefol Cymraeg", Eisteddfod yr Urdd
26 Mai, 2008
|
Lansiad ymgyrch "Mynnwn Goleg Cymraeg, nid Cwango arall", Eisteddfod yr Urdd
28 Mai, 2008
|
Mae'r 'sgrifen ar y mur! O ddifrif am y Gymraeg!, Eisteddfod yr Urdd
30 Mai, 2008
|
BEDROC 2008: Dafydd Iwan, Hanner Pei - BEDDLLWYNOG
20 Mehefin, 2008
|
|
Rhagor...
|

|
|