tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Llythyru Aelodau Ewropeaidd

Bernat JoanMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi dangos eu cefnogaeth i alwadau Joan Bernat ASE trwy lythyru holl aelodau Cymru o’r Senedd Ewropeaidd yn gofyn iddynt hwythau gefnogi a phleidleisio dros argymhellion Joan Bernat.

Daw ei argymhellion mewn adroddiad ar amlieithrwydd yn yr Undeb Ewropeaidd i’r Pwyllgor Addysg a Diwylliant, ac mae nifer ohonynt yn adlewyrchu yr hyn y mae’r Gymdeithas yn galw amdanynt mewn Deddf Iaith Newydd, galwadau sydd yn derbyn cefnogaeth gynyddol cenedlaethol a thrawsbleidiol ar hyn o bryd.

Gan fod Llywodraeth Lafur y Cynulliad, sydd hyd yn hyn wedi gwrthod yr angen am Ddeddf Iaith Newydd, wedi cyhoeddi eu bod am adolygu’r angen am ddeddfwriaeth newydd, cred y Gymdeithas y gallai argymhellion Joan Bernat fod yn rhai arwyddocaol a phellgyrhaeddol.

Mae’r argymhellion yn cynnwys, deddf UE i symleiddio polisi a deddfwriaeth iaith yr UE, Ombwdsmon Iaith i’r UE, fel yr un yng Nghanada i sicrhau hawliau iaith, sefydlu Asiantaeth Ewropeaidd dros Amlieithrwydd, statws swyddogol i bob iaith Ewropeaidd yn yr UE, llunio rhestr o ieithoedd Ewropeaidd yn yr UE sydd mewn perygl er mwyn blaenoriaethu cymorth, a sefydlu’r hawl i bob dinesydd yn yr UE i gyfathrebu â sefydliadau’r UE yn ei iaith ei hun.

Dywedodd Catrin Dafydd, cadeirydd ymgyrch y Gymdeithas dros Ddeddf Iaith Newydd,

"Cred y Gymdeithas fod gan bobl Cymru yr hawl i ddefnyddio’r Gymraeg ym mhob agwedd ar fywyd, gan gynnwys lefel llywodraeth Ewropeaidd a chredwn fod gan bob un o’r 46 miliwn o bobl yn yr UE sy’n defnyddio iaith nad yw’n iaith swyddogol aelod-wladwriaeth yr un hawl."

"Rydym yn falch iawn i weld yr argymhellion yma yn cael eu cyflwyno i’r Senedd Ewropeaidd, yn enwedig oherwydd fod cynifer ohonynt yn adlewyrchu ein dyheadau ni o ran hawliau a deddfwriaeth ieithyddol sydd yn sail i’n hymgyrch ni dros Ddeddf Iaith Newydd."

"Er enghraifft, mae’r cymalau ynglŷn a rhoi statws swyddogol i bob iaith Ewropeaidd, sefydlu hawl i bob dinesydd i gyfathrebu â’r UE yn ei iaith ei hun, a sefydlu Ombwdsmon, yn sicr yn bwyntiau yr ydym wedi ymgorffori yn ein dogfen bolisi ni mewn rhyw fodd neu gilydd."

"Dylai’r ffaith fod argymhellion fel hyn yn cael eu trafod ar lefel Ewropeaidd fod yn fodd i agor llygaid Llywodraeth Lafur y Cynulliad wrth iddynt adolygu’r angen am ddeddfwriaeth newydd. Mae’n holl-bwysig felly fod bob ASE dros Gymru yn pleidleisio dros argymhellion Joan Bernat yn yr hydref."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion | Rhyngwladol
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig