tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Euros Childs yn un o brif atyniadau Gigs yr Eisteddfod

Euros ChildsBydd cyn aelod y band Gorkys Zygotic Mynci, Euros Childs, yn perfformio yng nghlwb Barons yn Abertawe ar nos Fawrth 8fed Awst fel rhan o wythnos o gigs gwych fydd yn cael eu cynnal yno yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Dechreuodd Euros ei yrfa cyffrous mewn cerddoriaeth fel prif ganwr a chyfansoddwr y band gwerinol-seicadelig Gorkys Zygotic Mynci ar ddechrau’r nawdegau gan flasu llwyddiant rhagorol o oedran ifanc iawn. Yn anffodus daeth cyfnod y band poblogaidd i ben wrth iddyn nhw wahanu’n ddiweddar wedi sawl blwyddyn llwyddiannus a’i gwelodd yn rhyddhau 10 albwm.

Yn ffodus, mae Euros wedi bod yn prysur ddatblygu ei yrfa unigol dros y misoedd diwethaf. Cafodd ei arwyddo gan label recordiau Wichita yn Hydref 2005 gan ryddhau ei albwm unigol cyntaf, Chomps, ym mis Ionawr. Ers hynny mawe wedi bod yn brysur iawn gan berfformio ar hyd a lled Prydain ac Ewrop i hyrwyddo’r albwm, sydd wedi derbyn canmoliaeth eang.

Hwn fydd y tro cyntaf i Euros berfformio’n unigol yn Abertawe, er iddo ddenu cynulleidfaoedd mawrion yn gyson yn y ddinas gyda’r Gorkys. Bydd 4 o fandiau addawol iawn yn ei gefnogi ar y noson, yn cynnwys yr hynod boblogaidd Mattoidz, Cofi Bach a Tew Shady, Kenavo a Rasputin mewn noson llawn dop o gerddoriaeth.

Bydd y gigs yn cael eu cynnal trwy gydol wythnos yr Eisteddfod (Awst 5ed-12fed) yng nghlwb Barons yng nghanol y ddinas a’r Glamorgan Arms ym Mhontlliw. Mae modd prynu tocynnau o flaen llaw o Tŷ Tawe yn Abertawe, o’r Glamorgan Arms neu trwy ffonio 01970 624 501.

Mwy o wybodaeth - www.cymdeithas.com/steddfod

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig