tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Dathlu 20 Mlynedd o Hip-hop Cymraeg

Dull Di-draisBydd nos Iau'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe eleni yn ddathliad o gerddoriaeth hip-hop Cymraeg wrth i'r arloeswyr yn y maes, Llwybr Llaethog, berfformio set arbennig yng Nghlwb Barons i ddathlu 20 mlynedd ers iddyn nhw ryddhau'r deunydd rap cyntaf yn yr iaith.

Union ugain mlynedd yn ol cafodd y deunydd hip-hop Cymraeg cyntaf ei ryddhau gan Lwybr Llaethog ar y casét Dull Di-drais a oedd yn brosiect ar y cyd gyda Chymdeithas yr Iaith Gymraeg a Recordiau Anhrefn. Cafodd y caset ei ryddhau i gefnogi Ffred Ffransis, a oedd wedi ei garcharu fel rhan o'r ymgyrch addysg Gymraeg ar y pryd. Cafwyd lansiad arbennig trwy chwarae'r deunydd dros uchelseinydd tu allan i'r carchar yn Preston.

dull-di-drais.jpgRoedd y deunydd yn hollol wahanol i unrhywbeth a welwyd yn yr iaith cyn hynny ac mae wedi dylanwadu ar lu o artistiaid Cymraeg i arbrofi gyda'r arddull gan arwain i greu'r sin rap a hip-hop fyrlymus sy'n bodoli erbyn heddiw. Ymysg rhain mae'r Tystion, Skep, MC Mabon, Pep le Pew, MC Saizmundo, Cofi Bach a Tew Shady a Kenavo yn ddim ond rhai sydd wedi datblygu’r sîn rap Cymraeg.

Roedd Toni Schiavone yn gadeirydd y Gymdeithas ar y pryd, a dywedodd:

"Roedd Llwybr Llaethog yn un o'r grwpiau tanddaearol 'na nad oedd yn cael llawer o sylw ar y pryd, ac roedd y Gymdeithas ar flaen y gad wrth gefnogi'r math yma o fandiau. Roedd yn teimlo'n iawn i gyfuno gyda'r arbrawf arloesol o rapio yn y Gymraeg."

Bydd y cysylltiad clos rhwng Llwybr Llaethog a Chymdeithas yr Iaith yn parhau gyda'r dathliad yma, yn gyntaf gan ei fod yn ran o'i harlwyadloniant am yr wythnos, ond hefyd gan y bydd y cadeirydd presennol, Steffan Cravos, sydd hefyd yn un o rapwyr amlycaf Cymru yn ymuno â nhw ar y llwyfan. Dywedodd Steffan, sy'n adnabyddus fel ei alter-ego, MC Sleifar:

"pan nes i glywed y record am y tro cyntaf nath o ysbriodoli fi i greu cerddoriaeth hip-hop a pharhau gyda beth roedden nhw wedi dechrau. Dwi'n edrych 'mlaen yn fawr i fod yn ran o'r dathliad arbennig hwn."

Bydd y noson yn cael ei cynnal yng Nglwb Barons, Canol Abertawe ar nos Iau 10fed Awst. Hefyd yn perfformio fydd Radio Luxembourg, Jakokoyak, Bob a Derwyddon Dr Gonzo.

Bydd y gigs yn cael eu cynnal trwy gydol wythnos yr Eisteddfod (Awst 5ed-12fed) yng nghlwb Barons yng nghanol y ddinas a’r Glamorgan Arms ym Mhontlliw. Mae modd prynu tocynnau o flaen llaw o Tŷ Tawe yn Abertawe, o’r Glamorgan Arms neu trwy ffonio 01970 624 501.

Mwy o wybodaeth - www.cymdeithas.com/steddfod

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig