tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Aelod arall o Gymdeithas yr Iaith o flaen ei gwell

Angharad BlytheAr ddydd Mercher yr ail o Awst am 10 y.b, bydd Angharad Elen Blythe o flaen ei gwell yn Llys Ynadon Caerdydd. Hi fydd yr aelod olaf o’r mudiad i wynebu achos llys yn dilyn y cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth y Cynulliad yn 2005 yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Mae achos Angharad wedi tanlinellu aneffeithlonrwydd Deddf Iaith 1993 a’r angen dybryd am gyflwyno deddfwriaeth gynhwysfawr newydd ym maes y Gymraeg. Mae’r achos yma yn digwydd dros saith mis llawn wedi i Angharad gael ei harestio am baentio slogan ar adeilad Llywodraeth y Cynulliad ym Mharc Cathays, Caerdydd yn galw am Ddeddf Iaith Newydd.

Derbyniodd Angharad ffurflen fechniaeth, tair gwŷs uniaith Saesneg, ac nid oedd yr un swyddog ar gael yn Heddlu De Cymru a allay delio â’r achos trwy gyfrwng y Gymraeg. Gorfodwyd iddi deithio o ogledd Cymru i Gaerdydd ddwywaith er mwyn cael gwybod nad oedd modd trin yr achos yn Gymraeg. Mae’n ofynnol i lysoedd Cymru ohebu gyda diffynyddion yn ddwyieithog o dan Ddeddf Iaith 1993. Yn wir, sfydlu’r hawl hon oedd un o ymgyrchoedd cyntaf y Gymdeithas pan y’i sefydlwyd ym 1962.

Barnwyd Heddlu De Cymru yn hallt gan y Barnwr a oedd â chyfrifoldeb dros achos llys Mehefin ac mi addawodd anfon cwyn swyddogol atynt i gwyno ac i’w hysbysu eu bod yn gwyrdroi’r drefn gyfreithiol trwy beidio a chydymffurfio gyda’i Cynllun Iaith.

Dywedodd Catrin Dafydd, cadeirydd Grwp Deddf Iaith Newydd y Gymdeithas,

"Mae’r ffordd y tramgwyddwyd hawl Angharad fel siaradwr Cymraeg yn wirioneddol waradwyddys. Mae’r achos llys yma wedi bod yn pwyso ar ei hysgwyddau ers dros chwe mis, ac amharodrwydd Heddlu De Cymru i gydymffurfio gyda’u Cynllun Iaith eu hunain a diffyg grym Deddf Iaith 1993 i gosbi hynny yw’r rheswm dros hyn."

"Angharad yw’r aelod olaf o’r Gymdeithas i wynebu achos llys yn dilyn cyfnod o weithredu uniongyrchol yn erbyn Llywodraeth Lafur y Cynulliad. Maent wedi derbyn dirwyon amrywiol eu maint ac mae gorfodi rhywun i ddisgwyl saith mis i dderbyn cosb ariannol fel hyn i’w gondemio."

"Mae achos Angharad yn digwydd mewn cyfnod o ymgynghori pellach gyda phleidiau gweidyddol sydd wedi dangos mor eang yw’r consensws o blaid deddfwriaeth newydd, a phyhefnos cyn Taith Haf Deddf Iaith Newydd lle bydd aelodau o’r Gymdethas yn teithio ar draws Cymru i ledaenu neges Deddf Iaith Newydd ac i gasglu enwau ar ddeiseb a gyflwynir i’r Llywodraeth maes o law."

South Wales Echo - Welsh language vandal vows to continue protest

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig