tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Rownd Derfynol Brwydr y Bandiau 2006

gloriaarcreionspiws.jpg Dros yr wythnosau diwethaf cynhaliwyd rhagbrofion ledled Cymru, ac erbyn hyn gellir cyhoeddi’r 4 band fydd yn brwydro am deitl grwp ifanc gorau Cymru. Y bandiau sydd wedi cyrraedd y ffeinal yw Gloria a’r Creiond Piws (enillwyr rhagbrawf Llyn), Zootechnics (enillwyr rhagbrawf Caernarfon), Amlder (enillwyr rhagbrawf Caerfyrddin), ac yn olaf Eusebio (enillwyr rhagbrawf Crymych).

Mae’r Gymdeithas wedi bod yn cynnal y gystadleuaeth ers i Mattoidz ennill y wobr yn 2002. Trefnydd rhagbrofion y Gogledd oedd Dewi Snelson ac mae’n credu fod y gystadleuaeth yn gwella pob blwyddyn:

"mae safon y gystadleuaeth wedi bod yn aruthrol o uchel eleni. Mae’n grêt gweld yr holl fandiau ifanc da yma’n dod i’r golwg ac mae’r gystadleuaeth hon yn ffordd dda o roi hwb iddynt."

Cynhelir rownd derfynol cystadleuaeth Brwydr y Bandiau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng nghlwb Barons Abertawe nos Lun 7fed Awst.

Yn beirniadu’r rownd derfynol eleni fydd Ian Cottrell (Pop Factory), Esyllt Williams (Ciwdod) a Huw Stephens (Radio Cymru a Radio 1) ac mae’n argoeli i fod yn benderfyniad caled iddynt wedi i’r pedwar band greu argraff yn eu rhagbrofion.

Yn dilyn y gystadleuaeth bydd setiau gan un o’r bandiau a ddarganfu yng nghystadleuaeth 2005, Tangwystl, yn ogystal ag un o fandiau mwyaf poblogaidd Cymru ar hyn o bryd, Sibrydion. Mae’r noson yn dechrau am 8:00 gyda thocynnau ar werth ymlaen llaw o Dŷ Tawe ac ar uned y Gymdeithas ar faes yr Eisteddfod.

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig