tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yn hybu trafodaeth bellach trwy gyhoeddi drafft o fesur yr iaith

Ble mae'r Gymraeg?Mewn cyfarfod cyhoeddus a gynhelir am 2 o’r gloch heddiw ym Mhabell y Cymdeithasau ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn cyflwyno drafft o Ddeddf Iaith Newydd. Gwneir hyn fel cyfraniad pellach i’r drafodaeth gynyddol ynglyn â’r angen am ddeddfwriaeth iaith gryfach.

Meddai Sian Howys, a fydd yn siarad yn y cyfarfod ar ran Cymdeithas yr Iaith:

"Dros y misoedd diwethaf gwelwyd consensws yn datblygu ynglyn â’r angen i ddiwygio Deddf Iaith 1993 ac i gyflwyno deddfwriaeth gryfach a fydd, ymhlith pethau eraill, yn sicrhau statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, yn sefydlu cyfres o hawliau ieithyddol sylfaenol i bobl Cymru ac yn sefydlu Comisiynydd i’r Gymraeg."

"Golyga’r consensws hwn, law yn llaw â’r ffaith fod grymoedd pellach yn cael eu trosglwyddo i’r Cynulliad, mai nawr yw’r amser i fynd ati o ddifrif i drafod beth fydd cynnwys Deddf Iaith Newydd. Mewn ymgais i hybu trafodaeth o’r fath, mae Cymdeithas yr Iaith yn cyflwyno ei drafft hi o fesur iaith."

"Ein gobaith yw y bydd pleidiau, mudiadau ac unigolion yn yn ystyried ein cynigion ac yn ymateb gan gynnig gwelliannau ac y bydd hyn yn gwthio’r drafodaeth bwysig hon yn ei blaen."

Bydd aelodau o bob un o’r gwrthbleidiau hefyd yn cymryd rhan yn y cyfarfod. Bydd Adam Price AS (Plaid Cymru), Eleanor Burnham AC (Democratiaid Rhyddfrydol) a Lisa Francis AC (Ceidwadwyr) oll yn ymateb i fesur iaith drafft Cymdeithas yr Iaith ac yn amlinellu sut fydd ei pleidiau hwy yn mynd ati dros y misoedd nesaf i bwyso am ddeddfwriaeth iaith gryfach. Estynwyd gwahoddiad hefyd i Alun Pugh AC, y Gweinidog Diwylliant, ond nid oedd yn dymuno cymryd rhan.

Bydd ymgyrch Cymdeithas yr Iaith yn parhau dydd Iau, pan gynhelir rali dros Ddeddf Iaith Newydd ar faes yr Eisteddfod. Bydd y rali yn cychwyn am 2 y prynhawn tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith (Unedau 1034–1037). Y siaradwr gwadd yn y rali fydd y Cynghorydd Dafydd Iwan, Llywydd Plaid Cymru.


Pwyswch yma i lawrlwytho copi pdf o 'Mesur yr Iaith Gymraeg 2007' (pdf - 164kb)

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig