tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Deddf Iaith Newydd – Rhaid i’r Llywodraeth ddechrau gwrando!

Ble mae'r Gymraeg?Am 2pm heddiw, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg rali brotest yn galw am Ddeddf Iaith Newydd. Dechreuodd y brotest tu allan i uned Cymdeithas yr Iaith, lle cafwyd anerchiad gan Dafydd Iwan, llywydd Plaid Cymru, cyn i'r dorf orymdeithio draw at uned y Blaid Lafur.

Yn digwydd bod yno ar y pryd roedd nifer o ffigyrau amlwg o'r blaid, gan gynnwys Carwyn Jones (AC), John Griffiths (AC), Betty Williams (AS), Sian James (AS) a Paul Flynn (AS).

Meddiannwyd yr uned am gyfnod gan aelodau a chefnogwyr o Gymdeithas yr Iaith. Ond dihangodd y gwleidyddion gan wrthod trafod y mater gyda aelodau o'r dorf. Yr unig un a arhosodd ar ol i wrando oedd Paul Flynn.

Wrth annerch y rali, dywedodd Catrin Dafydd, arweinydd yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd:

“Dros y flwyddyn ddiwethaf, gwelwyd consensws yn datblygu o blaid yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Mae hwn yn gonsensws sy’n cwmpasu Cymdeithas yr Iaith, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Plaid Cymru, Y Rhyddfrydwyr a’r Ceidwadwyr, nifer o fudiadau iaith ac hefyd unigolion allweddol megis John Elfed Jones a’r Arglwydd Gwilym Prys Davies – aelod blaenllaw o’r Blaid Lafur.”

“Er gwaethaf hyn, mae un sefydliad allweddol yn parhau i wrthod cymryd unrhyw ran ystyrlon yn y drafodaeth bwysig hon. Dro ar ôl tro, mae Rhodri Morgan, Alun Pugh ac aelodau eraill o Lywodraeth Lafur y Cynulliad wedi gwrthod ystyried yr angen am Ddeddf Iaith Newydd. Am hynny, bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn parhau i ymgyrchu nes gwyn y maen i’r wal.”


Welsh Official status call by campaigners, Evening Post, Awst 11 2006
Protest puts Welsh case, Daily Post, Awst 11 2006

01protest-din-stedd06.jpg

02protest-din-stedd06.jpg

03protest-din-stedd06.jpg

04protest-din-stedd06.jpg

05protest-din-stedd06.jpg

06protest-din-stedd06.jpg

07protest-din-stedd06.jpg

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig