tafod.jpg hafan cymdeithas.com recordiad-gwyl100606.gifgigs-steddfod.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Cymru 2020
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Steffan
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Lluniau
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith ar daith dros Ddeddf Iaith

Deiseb Deddf IaithYfory Dydd Mercher Awst 16 bydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn mynd i Bontypridd i gasglu enwau ar y ddeiseb Deddf Iaith. Bydd aelodau yn ymgasglu wrth Glwb y Bont ym Mhontypridd am 11 o'r gloch y bore ac yn casglu enwau hyd at 3 o'r gloch y prynhawn.

Mae'r ymweliad a Phontypridd yn rhan o daith y Gymdeithas drwy Gymru. Cychwynodd y daith yn Abertawe dydd Llun a heddiw mae'r Gymdeithas yn Rhydaman.

abertawe.jpg
Abertawe

rhydaman.jpg
Rhydaman

clwbybont2.JPG
Pontypridd

Yfory bydd y Gymdeithas yn ymweld a Phontypridd. Bydd yng Nghaerdydd dydd Iau, Casnewydd dydd Gwener ac Aberystwyth dydd Sadwrn.

Yn yr wythnos ganlynol bydd y Gymdeithas yn ymweld a Rhuthun, Llangefni, Pwllheli, Caernarfon, Dolgellau ac Aberteifi.

Dywedodd Osian Rhys sydd yn gyfrifol am y trefniadau ym Mhontypridd:

"Cafodd y Gymdeithas wythnos lwyddianus iawn yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Cynhaliwyd cyfarfod gwirioneddol hanesyddol ym Mhabell y Cymdeithasau ar y dydd Mercher pan gafwyd tair o'r pedair prif blaid yng Nghymru i ddatgan cefnogaeth i Ddeddf Iaith."

"Cafwyd protest effeithiol yn erbyn y Blaid Lafur ar y Maes oherwydd ei diffyg cefnogaeth i'r ymgyrch ac fe gasglwyd miloedd o enwau ar y ddeiseb sy'n galw am Ddeddf Iaith. Hefyd fe fanteisiodd y Gymdeithas ar y cyfle i i lansio drafft fesur Deddf Iaith gan wthio'r ymgyrch ymlaen yn sylweddol."

"Yn awr dyma'n cyfle i fynd allan at y bobl yn eu cymunedau lleol i ofyn iddynt am eu cefnogaeth hwy."�


Manylion y Daith

deddf-iaith-ar-daith.jpg

Manylion y Ddeiseb

Ar faes Eisteddfod yr Urdd yn Rhuthun ym Mis Mai 2006 fe lansiwyd Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd.

Mae'r Deiseb yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau Deddf Iaith Newydd fydd yn sefydlu statws swyddogol a Chomisiynydd i'r Gymraeg, ynghyd â hawliau sylfaenol fydd yn rhoi cyfleoedd teg a real i bawb yng Nghymru fedru dysgu Cymraeg, derbyn addysg Gymraeg a chael eu galluogi i ddefnyddio'r Gymreg ym mhob agwedd o fywyd.

Dychweler unrhyw ddeisebion sydd wedi eu llenwi i Swyddfa Cymdeithas yr Iaith Gymraeg erbyn 1af Hydref 2006.

Mae'r ddogfen yma ar gael i'w lawrlwytho mewn PDF:

Pwyswch yma i lawrlwytho copi pdf o 'Deiseb Genedlaethol dros Ddeddf Iaith Newydd' (43KB)

I ddarllen ffeiliau PDF mae angen copi o Adobe Reader - sydd ar gael am ddim.

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Cymdeithas yr Iaith ar daith dros Ddeddf Iaith
15 Awst, 2006
Ymgyrch dros Ysgol Bentre'n symud lan gêr
11 Awst, 2006
Deddf Iaith Newydd – Rhaid i’r Llywodraeth ddechrau gwrando!
10 Awst, 2006
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Deddf Iaith ar Daith: Rhydaman
15 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Pontypridd
16 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Caerdydd
17 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Casnewydd
18 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Aberystwyth
19 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Rhuthun
21 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Llangefni
22 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Pwllheli
23 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Caernarfon
24 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Dolgellau
25 Awst, 2006
Deddf Iaith ar Daith: Aberteifi
26 Awst, 2006
Achos Llys: Debenhams v Iestyn ap Rhobert
30 Awst, 2006
Rhagor...

nôl i'r brig