Deddf Iaith ar Daith: Pwllheli
Byddwn yn casglu enwau ar y ddeiseb Deddf Iaith Newydd yn y maes parcio ger y Maes ym Mhwlleli rhwng 11yb a 3yp ar ddydd Mercher 23 Awst. Am fwy o wybodaeth neu i gynnig helpu, cysylltwch â Dewi Snelson ar - dewi.snelson@cymdeithas.org .
Ym mis Awst bydd Cymdeithas yr Iaith yn mynd a'r ymgyrch dros Ddeddf Iaith Newydd ar daith ar hyd a lled Cymru. Dyma'ch cyfle chi i helpu gyda'r ymgyrch yn eich ardal leol chi. Yn ogystal a lledaenu neges deddf iaith newydd o gwmpas Cymru, prif bwrpas y daith yw i gasglu cymaint o enwau ag sy’n bosib ar ddeiseb Deddf Iaith Newydd.
Os oes gennych chi awr neu ddwy i sbario felly, dewch draw i helpu casglu enwau ar y ddeiseb!
Byddwn yn cyflwyno’r ddeiseb yma i Lywodraeth y Cynulliad yn yr Hydref.

Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
.
|