tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Gwrthwynebu datblygiad tai Pont-tyweli

bawd_deddf_eiddo.jpgWedi'r ymgynghori gyda'r datblygwyr 'Eatonfield Group'a Chyngor Sir Gâr, datgelodd Cymdeithas yr Iaith y gallai fod dechrau ar y broses o adeiladu 50 o dai ym mhentref bach Pont-Tyweli yn nyffryn teifi mor glou â'r Pasg nesaf.

Rhoddwyd caniatad cynllunio amlinellol dros 20 mlynedd yn ôl ar gyfer 31 o dai a bwriadau'r datblygwyr nid yn unig i ddefnyddio hwn ond hefyd i ofyn am ganiatad i adeiladu hyd at 50 o dai mewn cais manwl i'w ddanfon at swyddfeydd y cyngor yr wythnos hon.

Dywedodd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith - Angharad Clwyd, sy'n byw ym Mhont-Tyweli:

"Os caniateir y datblygiad hwn, fe fydd yn cynyddu nifer o dai yn y pentref o 50% gan ei weddnewid yn gymdeithasol a diwyllianol."

"Fe'm sicrhawyd gan y datblygwyr y byddai 30% o'r tai yn 'fforddiadwy', ond nid yw hyn o gysur i Gymdeithas yr Iaith oherwydd golyga fod 70% o'r tai yn 'anfforddiadwy' ac yn hollol y tu hwnt i beth all y rhan fwyaf o bobl Dyffryn Teifi ei fforddio."

"Byddwn yn pwyso ar y Cyngor i ganiatau dim ond y 15 (30%) o gartrefi fforddiadwy. Mae hyd yn oed y Cynllun Datblygu Unedol dadeleuol yn cyfyngu'r nifer o dai ar y safle hwn i 14."

"Nid ydym wedi'n argyhoeddi chwaith fod gan Cyngor Sir Gâr yr adnoddau na'r gallu - yn ôl tystiolaeth y CDU - i gyflawni Astudiaeth Ystyrlon ar yr Effaith ar yr Iaith. Nid ydynt wedi gwneud unrhyw ymdrech i astudio effaith datblygiadau tai mawr blaenorol ar yr iaith Gymraeg."

Rhybuddiodd Ms Clwyd:

"Rhaid rhoi stop ar y math hwn o elwa o dir a chartrefi ar draul cymunedau Cymraeg."

Mae Cymdeithas yr Iaith yn galw am Ddeddf Eiddo i Gymru. Mae'r Deddf Eiddo a argymhellir yn fesur cynhwysfawr sy'n delio gyda phob agwedd o'r argyfwng tai sy'n tanseilio cymunedau ar draws Cymru - o ran prisiau tai afresymol, prinder dybryd o eiddo i'w rentu, neu ddatblygiadau mawr peryglus.

Cred Cymdeithas yr Iaith fod mesur o'r fath yn sylfaenol bwysig os ydym am sicrhau dyfodol hyfyw i'n cymunedau Cymraeg.

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig