tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Arestio 4 ar ôl protest iaith

brantano-peacocks.jpgAm 12.30pm heddiw (Dydd Sadwrn 14/10), gorymdeithiodd tua 100 o aelodau Cymdeithas yr Iaith Gymraeg draw at ‘Ystwyth Retail Park’, yn Aberystwyth, i gynnal Rali Brotest. Yn ystod y brotest, cafodd pedwar aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg eu harestio - Gwenno Teifi, Geraint Edwards, Ceri Phillips a Siwan Tomos - am chwistrellu'r geiriau ‘Deddf Iaith Newydd’ ar flaen siop Brantano.

Trefnwyd y brotest hon gan fod holl arwyddion allanol y Parc Siopa newydd yn Saesneg yn unig, a gan fod nifer o’r siopau sydd wedi ymsefydlu yno - fel Peacocks a Brantano - wedi gwrthod defnyddio’r Gymraeg.

Roedd y brotest wedi dechrau yn dawel y tu allan i Siop y Pethe Aberystwyth lle cafodd torf o brotestwyr eu hanerch gan Gwenno Teifi - Cadeirydd Cell Prifysgol Aberystwyth Cymdeithas yr Iaith, Y Cynghorydd Marc Strong o Gyngor Tref Aberystwyth a Menna Machreth - Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth.

Pwysleisiodd y tri fod Cyngor Tref Aberystwyth a Chyngor Sir Ceredigion yn gofyn i bob siop a busnes oedd yn symud i'r dre fabwysiadu polisi dwyieithog ond mai ychydig sy'n dewis gwneud hyn am nad yw'r Ddeddf Iaith bresennol yn eu gorfodi i wneud hynny. Dywedodd Menna Machreth;

“Nid yn unig yr ydym yn gofyn i'r siopau sy'n dod i'r dre fabwysiasdu polisi dwyieithog, yr ydym yn gofyn iddynt werthu cynyrch lleol hefyd, drwy wneud hyn byddent yn cefnogi nid yn unig y diwylliant lleol ond yr economi leol hefyd.”

O Siop y Pethe symudodd y protestwyr yn eu blaen heibio i'r siop sglodion newydd Espresso, gan lynu sticeri yn galw am Ddeddf Iaith ar y siop honno gan ei bod yn enghraifft o fusnes newydd yn y dre sydd heb weithredu polisi dwyieithog.

Aeth y protestwyr yn eu blaen wedyn i'r ‘Ystwyth Retail Park’, datblygiad siopa newydd anferth yn Aberystwyth. Dyma lle yr anerchwyd y dorf gan Sian Howys - Llefarydd Cymdeithas yr Iaith ar Ddeddf Iaith Newydd. Dywedodd:

"Rwy'n herio Rhodri Morgan i ddod lawr i weld datblygiad newydd hollol Saesneg o’r fath, i weld yn glir yr angen am Ddeddf Iaith Newydd.”

Cyfeiriodd hi hefyd at y ffaith i aelodau o Gell y Gymdeithas yn y Brifysgol fynd i siarad a'r siopau yn y Parc Siopa ac mai'r ymateb gan Brantano Footwear oedd - “There's no need for Welsh since we're all British.”

Yn dilyn y paentio slogannau, fe feddianwyd siop Brantano am gyfnod o hanner awr gan aelodau’r Gymdeithas. Pwysleisiodd Sian Howys na fyddai rhaid i’r staff wynebu protestiadau o’r fath petai yna ddeddfwriaeth ieithyddol digonol.

Mae'r pedwar aelod a gafodd eu harestio yn dal yn y ddalfa.


Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig