tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyngor Ceredigion yn cydnabod Saesneg fel iaith swyddogol

keith-evans-ceredigion.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi ymateb yn chwyrn i benderfyniad Bwrdd Gweithredol Cyngor Ceredigion i gyhoeddi pob adroddiad a dogfen ar eu gwefan yn Saesneg gyda nodyn y cant eu cyfieithu i'r Gymraeg fel y bydd adnoddau'n caniatau.

Dywedodd cadeirydd Cymdeithas yr Iaith yng Ngheredigion, Angharad Clwyd, "Dyma barhad yn y ganrif newydd o'r hen agwedd taeog fod yn rhaid i bopeth gael ei wneud yn Saesneg er mwyn bod yn swyddogol, ac mai cymwynas bach a Chymry Cymraeg yw cyfieithu."

"Os yw'r Gymraeg i fyw, rhaid troi'r sefyllfa hon wyneb i waered. Rhaid i gyngor fel Ceredigion fabwysiadu'r Gymraeg fel ei hiaith swyddogol a chynnal ei weinyddiaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gyfieithu i'r Saesneg yr hyn sy'n angenrheidiol i sicrhau chwarae teg i drigolion di-Gymraeg. Rhaid deall fod cyfieithu ar gyfer pobl ddi-Gymraeg, nid ar gyfer pobl sy'n gallu deall y ddwy iaith, ac felly gwariant ar yr iaith Saesneg yw cyfieithu.

"Mae hon yn egwyddor sylfaenol iawn, a byddwn yn cynnal cyfarfod brys o'n haelodau yng Ngheredigion i drefnu ymgyrch o bwysau gweithredol ar Gyngor Ceredigion i'w darbwyllo i newid eu polisi a gwneud y Gymraeg yn hanfodol i'w holl waith."


Stori oddi ar wefan BBC Cymru'r Byd
Stori oddi ar wefan NewsWales.co.uk

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig