tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Ateb Niwlog Rhodri ar fater Deddf Iaith

Rhodri MorganMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg o'r farn fod y Blaid Lafur yn graddol newid ei thiwn ar gwestiwn Deddf Iaith. Mewn cyfarfod yn Ysgol Penweddig, Aberystwyth neithiwr (Nos Iau Chwefror 15) cafodd Rhodri Morgan ei holi gan aelodau'r Gymdeithas beth fyddai gan y Blaid Lafur i'w ddweud ar yr iaith Gymraeg yn ei Maniffesto ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad.

Pwyswch yma i weld fideo o'r digwyddiad...

Rhowch glec ar yr saeth isod i redeg y fideo:

Yn ei ateb fe ddywedodd Rhodri Morgan y byddai'r Blaid Lafur yn mynd ati i "gryfhau" hawliau'r unigolyn mewn perthynas â'r iaith. Ond yr oedd yn chwyrn yn erbyn ymestyn deddfweiaeth ieithyddol i'r sector breifat. Mynnai nad oedd hyn yn ymarferol bosibl gan mai "dim ond 20% o boblogaeth y wlad oedd yn siarad Cymraeg." Ofnai ymhellach y byddai rhoi mwy o bwysau ar y sector breifat yn achosi hollt ieithyddol yn y gymdeithas.

Dywedodd Menna Machreth, aelod o Senedd Cymdeithas yr Iaith gafodd y cyfle i holi Rhodri Morgan:

"Gan fod Rhodri Morgan wedi siarad yn chwyrn yn erbyn cryfhau Deddf Iaith yn y gorffennol mae'n amlwg fod rhywfaint o newid pwyslais wedi bod gan ein fod yn awr yn sôn am ei chryfhau. Ond ar yr un pryd ymddengys mai 'rhai' hawliau ieithyddol ychwannegol y mae am eu hildio i'r Cymry Cymraeg, ac y bydd y berthynas rhwng y ddwy gymdeithas ieithyddol yng Nghymru yn parhau yn anghfartal."

Roedd ugain o aelodau Cymdeithas yr Iaith wedi ymgynnull y tu allan i Ysgol Penweddig yn Aberystwyth i groesawu Rhodri Morgan. Dywedodd Gwenno Teifi, trefnydd Cymdeithas yr Iaith yn Nyfed:

"Wythnos yn ôl fe gyflwynodd Cymdeithas yr Iaith ddeiseb i'r Cynulliad Cenedlaethol yn galw am Ddeddf Iaith ac arni 10,000 o enwau. Daeth cynrychiolwyr o'r tair gwrth-blaid i'r cyflwyniad hwnnw ond nid oedd yno neb yn cynrychioli'r Blaid Lafur. Felly yr oeddem am gael gwybod gan Rhodri Morgan beth yn union fyddai safbwynt ei Blaid ar y pwnc hwn. Ofnaf mai digon niwlog oedd yr ateb, ond fe ymddengys ei fod wedi ildio rhwyfaint i'n safbwynt ni drwy ddweud y bydd Llafur yn mynd ati i gryfhau'r Ddeddf Iaith bresennol."

Mwy yn yr un categori(au): Ceredigion | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig