tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cefnogi Gorymdaith dros Ddeddf Iaith Wyddeleg

PobalAr Ddydd Sadwrn 24 Chwefror bydd Gwyn Sion Ifan, Sel Jones a Huw Jones o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn teithio i Belfast i fynychu gwrthdystiad dros Ddeddf Iaith Gwyddeleg i ogledd Iwerddon, ac i ddatgan cefnogaeth i’r 160,000 o siaradwyr yr Wyddeleg yn y gogledd. Yn ogystal â’r orymdaith ei hun, bydd cyngherddau a digwyddiadau ieithyddol eraill yn cyd-fynd â hi. Mae'r Gymdeithas eisioes wedi danfon neges o gefnogaeth at drefnwyr yr orymdaith.

Meddai Catrin Dafydd, Cadeirydd Grŵp Deddf Iaith y Gymdeithas:

"Mae Cymdeithas yr Iaith yn falch o gefnogi’r rali yn Belfast. Mae ein hymgyrch ni dros ddeddf iaith newydd yng Nghymru yn rhan o fudiad byd-eang i sicrhau hawliau dynol sylfaenol i bobloedd y byd. Wrth fynnu ein hawliau ni i bobl Cymru, rydyn ni’n sefyll gydag eraill fel siaradwyr yr Wyddeleg yng Ngogledd Iwerddon wrth iddynt fynnu eu hawliau nhw drwy ddeddfwriaeth."

Bydd yr orymdaith yn cychwyn ger y ganolfan ddiwylliant a chelf 'Cultúrlann McAdam Ó Fiaich' am 1pm, cyn gorymdeithio draw i 'Poets Square' yng nghanol Belfast, lle y'i cyferchir gan Janet Muller, Prif Weithredwraig POBAL, Cymdeithas ymbarel yr iaith Wyddeleg; Gerry Adams, Llywydd Sinn Féin; Cynrychiolwyr yr SDLP, ac aelodau blaenllaw sefydliadau Gaeleg eraill.

Cynnwys y neges o gefnogaeth a ddanfonwyd at drefnwyr yr orymdaith yw:

"Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dymuno yn dda i chi yn eich protest dros hawliau i'r Wyddeleg yn Béal Feirstre dydd Sadwrn. Yr ydym ni yma yng Nghymru yn ymladd dros gryfhau Deddf yr Iaith Gymraeg ar hyn o bryd fel bod y Gymraeg yn gyfartal â'r Saesneg. Credwn fod gan siaradwyr Gwyddeleg yng ngogledd Iwerddon yr hawl i ddisgwyl yr un hawliau ieithyddol a siaradwyr Saesneg y rhanbarth. Edrychwn ymlaen at gael cydweithio er mwyn sicrhau cyfiawnder i'r Gymraeg a'r Wyddeleg."

Mae’r mudiad iaith ymbarél POBAL - www.pobal.org - yn gweithio ers tair blynedd ar ddeddf iaith ac maen nhw wedi cyflwyno cynigion manwl a drafft o ddeddf a fyddai’n rhoi statws swyddogol i’r iaith yng Ngogledd Iwerddon, hawliau i siaradwyr yr Wyddeleg i ddefnyddio’r iaith ym maes addysg, y llysoedd, y cyfryngau, sefydliadau gwleidyddol, y gweithle etc. a byddai’n sefydlu swydd Comisiynydd yr Iaith Wyddeleg a chorff cynllunio.

Yr Wyddeleg yw iaith swyddogol gyntaf Gweriniaeth Iwerddon. Yn 2003 pasiodd y Weriniaeth y Ddeddf Ieithoedd Swyddogol. Yn Ionawr 2007 daeth yr Wyddeleg yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd.


Ní géilleadh go hAcht Gaeilge, La Nua, 26/02/2007
Hundreds take to the streets to demand equal rights for Irish, irelandclick.com, 26/02/2007
Mo cheol sibh! irelandclick.com, 26/02/2007
Rally to demand Irish Language Act for the Six Counties, anphoblacht.com, 16/02/2007


belfast1.jpg

belfast2.jpg

belfast3.jpg

belfast4.jpg

belfast5.jpg

belfast6.jpg

clawr-nua.jpg

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion | Rhyngwladol
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig