tafod.jpg hafan cymdeithas.com
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cowbois ar Daith

Taith TafodMae Tîm Adloniant Cymdeithas yr Iaith yn falch iawn o gyhoeddi mai Cowbois Rhos Botwnnog fydd y prif fand ar ail Daith Tafod sydd i’w chynnal ym mis Ebrill. Bydd Yucatan a Mr Huw hefyd yn ymuno â nhw wrth iddynt ymweld â phob cwr o Gymru.

Hon fydd yr ail daith o’r fath i’w threfnu gan y Gymdeithas yn dilyn llwyddiant y gyntaf yn Nhachwedd 2006. Y bwriad yw cynnal gigs o safon ymhob rhan o’r wlad a chynyddu poblogrwydd y bandiau sy’n teithio yn y rhannau hynny.

Llun_Cowbois3.jpgYn ogystal â pherfformio’n fyw yng ngwobrau Roc a Phop Radio Cymru’n ddiweddar, enillodd Cowbois Rhos Botwnnog y wobr ‘Grŵp a Ddaeth i Amlygrwydd’ ar y noson, yn ogystal â chael eu henwebu yng nghategori ‘Sesiwn C2 y Flwyddyn’. Mae eu harddull unigryw o gerddoriaeth roc-gwledig wedi eu gwneud yn boblogaidd iawn gyda dilynwyr cerddoriaeth Gymraeg a dywedodd cydlynydd Taith Tafod, Owain Schiavone, “maen nhw eisoes yn un o fandiau newydd mwyaf poblogaidd Cymru felly rydym ni am geisio adeiladu ar hyn a’u helpu i gyrraedd y lefel nesaf. Mae ganddyn nhw hefyd albwm ar y gweill felly gobeithio bydd y daith yn gymorth i hyrwyddo hwnnw”.

Mae Yucatan hefyd yn gobeithio rhyddhau albwm cyntaf y band ym mis Mai wedi i draciau promo dderbyn tipyn o airplay gan swyno gwrandawyr. Dywedodd Schiavone, “mae cerddoriaeth Yucatan yn wirioneddol hyfryd ac mae’r daith yn rhoi cyfle iddynt berfformio’n fwy ar lwyfan. Rydyn ni hefyd yn falch iawn o gael Mr Huw ar y daith hefyd gan ei fod ei gerddoriaeth mor glyfar a hwyliog – mae pawb yn licio Mr Huw.”

Mae dau leoliad wedi eu hychwanegu at yr ail daith a bydd yn ymweld â Dinbych, Porthmadog, Bangor, Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd dros gyfnod o fis. Mae’r daith yn dechrau yng Nghlwb Rygbi Dinbych ar 12fed Ebrill ac yn dod i ben yng Nghlwb Ifor Bach, Caerdydd ar 4ydd o Fai.


· Pwyswch yma i wrando ar ganeuon Cowbois Rhos Botwnnog, oddi ar wefan C2, BBC Radio Cymru neu ewch i’w safle MySpace.
· Am ragor o wybodaeth ynglŷn a Yucatan ac i glywed eu cerddoriaeth, ewch i’w safle MySpace.
· Am ragor o wybodaeth ynglŷn a Mr Huw ac i glywed ei gerddoriaeth, ewch i’w safle MySpace.


Taith Tafod 2 - Clwb Rygbi Dinbych
Nos Iau, 12fed Ebrill 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Mr Huw
DJ Fuzzy Felt

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662 908 neu gogledd@cymdeithas.org

Taith Tafod 2 - Clwb Chwaraeon Porthmadog
Nos Wener, 13eg Ebrill 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Mr Huw
DJ Fuzzy Felt

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662 908 neu gogledd@cymdeithas.org

Taith Tafod 2 - Clwb y Cwins, Caerfyrddin
Nos Sadwrn, 14eg Ebrill 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Supergene
Coda
Mr Huw

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Gwenno ar 07815709885 neu gwenno@cymdeithas.org

Taith Tafod 2 - Neuadd Hendre, ger Bangor
Nos Wener 20fed Ebrill 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Mr Huw
DJ Fuzzy Felt

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion ffoniwch Dewi ar 01286 662908 neu gogledd@cymdeithas.org

Taith Tafod 2 - Clwb Pel-droed Aberystwyth
Nos Wener 27ain Ebrill 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Jen Jeniro

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson. Am fwy o fanylion e-bostiwch owain@cymdeithas.com.

Taith Tafod 2 - Clwb Ifor Bach, Caerdydd
Nos Wener 4ydd Mai 2007

Cowbois Rhos Botwnnog
Yucatan
Mr Huw

Tocynnau: £4 o flaen llaw neu £5 ar y noson

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Newyddion
.

Newyddion
Toriadau Addysg - dinistrio'r Iaith Gymraeg yn y cymoedd
14 Ionawr, 2010
Teyrnged i Hywel Teifi Edwards
6 Ionawr, 2010
Hywel Teifi Edwards, "cyfraniad aruthrol i fywyd y genedl"
5 Ionawr, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Seminar Gwion Lewis - Y Mesur Iaith Gymraeg Newydd
8 Chwefror, 2010
Protest - Y Gymraeg Mewn Peryg: gadewch iddi fyw
10 Chwefror, 2010
Cyfarfod Rhanbarth Clwyd, yr Hand, Stryd Henllan
17 , 2010
Cyfarfod Dinbych, Tafarn yr Hand
17 Chwefror, 2010
Cyfarfod Rhanbarth Gwynedd / Mon, Nos Iau, Chwefror 18fed, 7.30
18 Chwefror, 2010
Cyfarfod Bangor, Y Gath Dew
24 Chwefror, 2010
Cyfarfod Caernarfon, Swyddfa'r Gogledd, Palas Print
4 Mawrth, 2010
Noson Lansio'r Llyfr, Palas Print, Caernarfon
26 Mawrth, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig