tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Llafur, Ceidwadwyr a Phlaid Cymru yn anfon cynrychiolwyr i'r Cyfarfod Cyffredinol

Cyfarfod CyffredinolBydd y pleidiau gwleidyddol yn anfon cynrychiolydd i Gyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg sydd i'w gynnal yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth rhwng 10am a 3pm ddydd Sadwrn Mawrth 10fed. Cynrychiolwyr y pleidiau fydd Trefor Jones ymgeisydd y Blaid Geidwadol yng Ngheredigion, Elin Jones AC ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion ac Alun Davies sydd ar ben y rhestr Llafur yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi ymddiheuro am fethu ag anfon cynrychiolydd a hynny am fod ganddynt Gynhadledd yn Abertawe ar yr un diwrnod; ond mae Eleanor Burnham AC wedi anfon neges at Gyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar eu rhan.

Bydd sesiwn arbennig rhwng 2pm a 3pm lle bydd dogfen ddiweddaraf y Gymdeithas 'Mesur yr Iaith Gymraeg 2007' - sydd newydd gael ei diweddaru – yn cael ei lansio. Llywydd y sesiwn hon fydd Kate Crockett a fu'n newyddiadurydd gyda'r Byd a'r Bedwar a'r BBC. Bydd llawr y Cyfarfod Cyffredinol, ar gyfer y sesiwn arbennig hon wedi ei ffurfio ar lun llawr siambr y Cynulliad Cenedlaethol gyda Kate Crockett yn chwarae rhan Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd cyfle i gynrychiolwyr y pleidiau ymateb i 'Fesur yr Iaith Gymraeg 2007' ac i egluro beth fydd gan eu gwahanol faniffestos ar gyfer Etholiadau'r Cynulliad i'w ddweud ar yr iaith Gymraeg. Bydd ganddynt hefyd y cyfle i ateb cwestiynau o'r llawr.


Pwyswch yma am fwy o fanylion ynglyn a'r Cyfarfod Cyffredinol

Mwy yn yr un categori(au): Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig