tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyfarfod Cyffredinol Cymdeithas yr Iaith

Hywel GriffithsYn eu Cyfarfod Cyffredinol yng Nghanolfan Morlan, Aberystwyth ddoe (dydd Sadwrn Mawrth 10) cafodd Hywel Griffiths ei ethol fel Cadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i arwain y mudiad am y flwyddyn 2007 – 2008. Mae Hywel, sy'n 23 mlwydd oed, yn fyfyriwr ymchwil ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth.

Cafodd ei eni yn Llangynog, ger Caerfyrddin, ac mae'n byw yn y dref honno ar hyn o bryd gyda'i gariad, y llenor, Catrin Dafydd. Mae Hywel wedi gwneud cryn enw iddo'i hun fel bardd, drwy ennill Cadair Eisteddfod yr Urdd yn Ynys Môn. Ei dad yw'r newyddiadurwr adnabyddus Tweli Griffiths. Wrth dderbyn y gadeiryddiaeth fe ddywedodd Hywel:

"Mae'n fraint cael dilyn Steffan Cravos fel Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, a hynny mewn blwyddyn allweddol bwysig yn hanes Cymru â'r iaith Gymraeg. Gellir dadlau fod hon yn un o'r blynyddoedd pwysicaf yn ein hanes fel cenedl, gan y bydd Cynulliad Cenedlaethol yn ennill yr hawl i ddeddfu. Am y tro cyntaf ers oes y Tywysogion fe fydd pobl Cymru â'r hawl i basio deddfau yn ein gwlad ein hunain."

"Wrth gwrs, un o'r materion cyntaf y dymunem ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg weld y Cynulliad yn mynd i'r afael ag ef yw'r angen am Ddeddf Iaith fydd yn deilwng ohonom fel cenedl. O'r diwedd fe ddaeth cyfle i wireddu breuddwyd ac fe fyddwn ni yn gweithio'n galed iawn dros y misoedd nesaf i sicrhau fod hyn yn ndigwydd."

"Mae yna hefyd wrth gwrs faterion eraill y dylai llywodraeth Cymru fynd i'r afael â hwy, fel yr angen i weithredu strategaeth frys ym maes cartrefi, gwaith a thrafnidiaeth, er mwyn sicrhau fod gan bobl ifanc gyfle i fyw yn ein hardaloedd Cymraeg. Bydd yn rhaid i ni hefyd ddelio â'r bygythiad i'n hysgolion gwledig ac ymrwymo er mwyn gwneud yn siwr fod addysg Gymraeg ar gael ym mhob sector."

Un o'r cynigion pwysicaf a drofodwyd yn y Cyfarfod Cyffredinol oedd yr un ar sut y dylai'r Gymdeithas wario yr arian mawr adawyd iddi mewn ewyllys gan y diweddar Howell Lewis. Erbyn hyn mae'r Gymdeithas wedi derbyn dros £400,000 o'r arian hwnnw. Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Dros y blynyddoedd mae llawer o bobl wedi bod yn hael iawn eu cefnogaeth i Gymdeithas yr Iaith Gymraeg. Oni bai am yr haelioni hwnnw ni fyddai'r Gymdeithas wedi goroesi. Ond roedd y swm a dderbyniwyd gan Mr Howell Lewis yn ei ewyllys ymhell y tu hwnt i ddim a gawsom o'r blaen."

"Dros y deunaw mis diwethaf bu'r Gymdeithas yn trafod yn fanwl beth ddylid ei wneud gyda'r arian hwn a phenderfynwyd rhoi cynnig ger bron ein Cyfarfod Cyffredinol fel y gallai ein haelodau cyffredin gyfrannu i'r drafodaeth. Yn dilyn trafodaeth bywiog, cafodd y cynnig ei basio sy’n golygu y bydd £100,000 o'r arian yn cael ei neilltuo ar gyfer ei wario ar brosiectau arbennig. Bwriedir buddsoddi'r gweddill mewn cynllun deng mlynedd fydd yn sefydlu pump o swyddi cyflogedig llawn amser i hybu gwaith y Gymdeithas."

Yn y prynhawn lansiwyd dogfen ddiweddaraf y Gymdeithas - 'Mesur yr Iaith Gymraeg 2007' - gan Gadeirydd newydd Cymdeithas yr Iaith Hywel Griffiths. Llywydd y sesiwn hon oedd Kate Crockett a fu'n newyddiadurydd gyda'r Byd a'r Bedwar a'r BBC. Ffurfiwyd llawr y Cyfarfod Cyffredinol, ar gyfer y sesiwn arbennig hon, ar lun llawr siambr y Cynulliad Cenedlaethol gyda Kate Crockett yn chwarae rhan Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol.

Yna bu cyfle i gynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol - Trefor Jones ymgeisydd y Blaid Geidwadol yng Ngheredigion, Elin Jones AC ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngheredigion ac Alun Davies sydd ar ben y rhestr Llafur yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru - ymateb i’r ddogfen. Ymddiheuriodd y Democratiaid Rhyddfrydol am fethu ag anfon cynrychiolydd a hynny am fod ganddynt Gynhadledd yn Abertawe ar yr un diwrnod; ond danfonodd Eleanor Burnham AC neges at Gyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ar eu rhan.


Hwb ariannol i fudiad protest - Newyddion BBC, 11/03/07
£500,000 bequest creates jobs - BBC News, 11/03/07
Pwyswch yma i weld lluniau o'r digwyddiad oddi ar wefan Flickr.

Mwy yn yr un categori(au): Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig