tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Bygythiad o'r newydd i gymuned Pont-Tyweli

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith wedi hysbysu pobl Pont-Tyweli fod y cais am 50 o dai ym Mhont-Tyweli, gan Eatonfield group, wedi ei ail-gyflwyno i'r Cyngor. Cyflwynwyd y cais gwreiddiol ym mis Rhagfyr 2006 ond fe dynnwyd y cais yn ol ym mis Ionawr 2007.

Dywed Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr iaith, sydd yn
byw yn lleol:

"Gofynwn ar bobl Bont-Tyweli yn awr i ddanfon eu gwrthwynebiadau i fewn yn syth i atal y datblygiad niweidiol potensial yma. Mae'n bwysig sicrhau fod swyddogion adran gynllunio y Cyngor yn clywed llais y bobl."

Fe fydd Cymdeithas yr Iaith yn trefnu cyfarfod cyhoeddus ar yr 17eg o Ebrill i roi llwyfan i'r gymuned leol fel bod y cynllunwyr a'r datblygwyr yn ymwybodol o'r teimladau cryf sydd yn lleol. Fe gynhelir y cyfarfod yn y Pwerdy ym Mhont-Tyweli ar nos Fawrth yr 17eg o Ebrill am 7pm. Ymysg y siaradwyr fydd Rhodri Glyn Thomas, yr Aelod Cynulliad sy'n cynrhychioli'r ardal, John Crossley, y Cynghorydd lleol ac Aled Davies, cynrhychiolydd o Gymdeithas yr Iaith.

Fe fydd y Gymdeithas hefyd yn gwahodd y datblygwyr a'r Cynllunwyr i fynychu'r cyfarfod er mwyn rhoi'r cyfle iddynt i glywed pryderon y gymuned yn uniongyrchol.

* 14 o dai sydd wedi eu dynodi ar gyfer y safle o fewn y Cynllun Datblygu Unedol.
* Mae eisioes caniatad ar gyfer 31 o dai ar gyfer y safle ers y 90au cynnar.
* Fe fydd 28 o'r 50 o dai yn dai 'detached' 3/4 ystafell wely a fydd yn cael eu gwerthu yn ôl y datblygwyr am £200,000 i £250,000.
* Mae'r adran gynllunio yn rhagweld, os rhoddir caniatad i'r tai yma, mai 30% fydd yn fforddiadwy sydd yn golygu fod 70% yn anfforddiadwy.

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig