tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal cyfarfodydd yn Saesneg

bawd_deddf_eiddo.jpgDanfownyd y llythr canlynol at Iona Jones, Prif Weithredydd S4C heddiw:

Annwyl Iona Jones,

Hoffwn fynegi fy nicter gyda S4C ar ôl deall fod Bwrdd Cyfarwyddwyr S4C yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg.

Ni allaf yn fy myw ddeall sut y bu i'r sefyllfa hon godi. Bu brwydr hir a chwerw i sicrhau sianel teledu Cymraeg yng Nghymru. Mae darganfod fod gweinyddiaeth fewnol awdurdod S4C (oleiaf yn rhannol) yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg yn ergyd drom i’r rhai ohonom fu ynghlwm wrth y frwydr honno. Tybed â oes mwy na hyn o weinyddiaeth fewnol awdurdod S4C yn cael ei gynnal drwy gyfrwng y Saesneg? Byddai'n dda cael gwybod beth yw'r sefyllfa, a pham fod S4C yn teimlo’r angen i wneud unrhyw weinyddu o gwbl drwy gyfrwng y Saesneg.

Yr ydym ni fel Cymdeithas mewn trafodaethau mynych y dyddiau hyn gyda nifer o awdurdodau lleol, er mwyn ceisio cael ganddynt ymrwymiad i ddilyn esiampl Cyngor Gwynedd a chynnal eu gweinyddiaeth mewnol un ai yn rannol neu'n gyfangwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae'n siom aruthrol i ni bod S4C, fel y pwysicaf o'r sefydliadau Cymraeg eu hiaith, yn cynnal ei gyfarfodydd drwy gyfrwng y Saesneg. Mae hyn yn gwneud y gwaith o geisio Cymreigio bywyd cyhoeddus Cymru – rhywbeth fyddai o fudd uniongyrchol i S4C – yn anos fyth.

Mawr obeithiaf y bydd y polisi anffodus hwn yn newid ac edrychaf ymlaen at gael cadarnhad buan gennych y bydd hynny yn digwydd.

Yn gywir,

Dafydd Morgan Lewis
Cymdeithas yr Iaith Gymraeg

Mwy yn yr un categori(au): Darlledu | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig