|
|
|
Gair o'r Gadair
Bu Cyfarfod Cyffredinol 2007 yn un cyffrous a llwyddiannus. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i chi’r aelodau am ddangos ffydd ynof i, ac am bleidleisio drostai. Yn ail, hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Steffan am ei waith dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Mae’r Gymdeithas wedi cyflawni gymaint yn ystod y ddwy flynedd yna, a diolch yn fawr am dy arweiniad.
Roedd yna deimlad o gyffro gwirioneddol ar y bore Sadwrn hynny yng Nghanolfan y Morlan, am sawl rheswm mae’n debyg. Wrth gwrs, roedd y mwyafrif yn sylweddoli mai ar y diwrnod yna y byddai cynlluniau’r Senedd ar gyfer defnyddio rhodd ariannol hael y diweddar Hywel Vaughan Lewis yn cael eu gosod gerbron yr aelodau. Wedi tipyn o drafod, penderfynwyd cefnogi cynlluniau’r Senedd, ac felly fe fydd strwythyr newydd o swyddi cyflogedig gan y Gymdeithas yn y dyfodol agos. Yn ogystal a chynnal y dair wydd bresennol, sef Swyddog Gweinyddol Cenedlaethol, a Swyddogion Maes Dyfed a’r Gogledd, bydd Swyddog Ymgyrchoedd Cenedlaethol a Swyddog Maes y De yn cael eu penodi.
Bu trafod ac ymchwil dwys a manwl cyn cyflwyo’r cynlluniau yma, ac meant wedi cael eu cyllido yn ofalus am y degawd nesaf. Wrth gwrs bydd cyfrifoldeb ar y swyddogion yma i hybu ymgyrchoedd ac i lobio yn eu hardaloedd, ond eu rol yn anad dim fydd hwyluso cynnydd yn ein gweithgaredd gwirfoddol – i dynnu aelodau i mewn i’n gweithgarwch ni ar lawr gwlad ac i sicrhau ein bod ni, fel cymdeithas o aelodau ymroddedig, yn cael y maen i’r wal yn y modd mwyaf effeithiol posib. Gwelwyd pa mor effeithiol gall hyn fod wrth edrych ar y cynnydd gwych mewn gweithgaredd a welwyd yn rhanbarth y Gogledd yn dilyn penodi Dewi Snelson, gan gyrraedd uchafbwynt mewn protest o 300 o bobl ym Morrisons Bangor.
O ganlyniad i haelioni Howell Vaughan Lewis mi fyddwn ni fel Cymdeithas mewn sefyllfa i allu ymgyrchu a lobio yn fwy effeithiol, ac i dynnu mwy a mwy o aelodau i fewn i weithgaredd y Gymdeithas ar lawr gwlad. Ac fe fydd eu hangen yn fwy nac erioed, oherwydd wedi i ragor o bwerau gael eu trosglwyddo i’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai, mi fydd deddfau gwlad yn cael eu pasio yng Nghymru am y tro cyntaf ers oes y Tywysogion. Mae cynfod o gyffro mawr o’n blaenau felly. Cyfnod o gyffro ond cyfnod o gyfrifoldeb aruthrol hefyd. Wrth dderbyn y rhodd yma gan Howell Vaugan Lewis mae’n deg tybio ei fod yn cytuno gyda’n egwyddorion a’n dulliau. Mae’n ddyletswydd inni felly ddefnyddio ei rodd er mwyn ymgyrchu a lobio yn galetach ac yn fwy effeithiol nag erioed o’r blaen, a glynu wrth yr un egwyddorion hynny.
Mae’n ddyletswydd arnom yn awr i sicrhau ein bod ni’n parhau i bwyso ar y Cynulliad er mwyn sicrhau fod hawliau ieithyddol dinasyddion Cymru yn cael eu sefydlu, fod ein cymunedau Cymraeg naturiol ni yn cael pob cyfle posib i barhau yn rhai hyfyw, a bod ein sefydliadau addysgol ni yn cynnig addysg cyfrwng Cymraeg i bawb sy’n ei ddymuno. Dyna’r sialens sy’n ein wynebu ni. Adlewyrchwyd hyn yn y cynigion polisi ac ymgyrchol a basiwyd yn y Cyf Cyff, - yn galw ar I lywodraeth newydd Cymru gynabod ac I weithredu ar ei gyrfifoldeb I’r Gymraeg, yn galw I ar Morrisons a Tesco sicrhau bod y Gymraeg yn ganolog I’w gwasanaethau, yn galw ar gynghorau sir Cymru I symud tuag at wneud y Gymraeg yn iaith sywddogol weinyddol, yn comisiynu gwaith ymchwil ar effaith datblygiadau tai ardal y Wyddgrug ar yr iaith, ac yn nodi ein pryder fel Cymdeithas am gyllid awdurdodau Addysg a’r perygl i swyddi yn Swyddfa Treth Incwm Porthmadog.
Bydd y flwyddyn nesaf yn un brysur iawn felly, ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr. Yn flaenaf yn fy meddwl o gofio’r cynnwrf diweddar yw’r angen i sefydlu Deddf Iaith Newydd iaith ar unwaith. Mesur a fydd yn rhoi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, yn creu comisiynydd yr iaith Gymraeg ac yn sicrhau y bydd y Gymraeg yn hygyrch ymhob agwedd ar fywyd, i bob un yng Nghymru. Yng nghyfarfod cyntaf Senedd Amgen Llywodraeth y Cynulliad ar brynhawn y Cyf Cyff, mi gyflwynwyd ein Mesur Iaith terfynol ni i’n haelodau ac i’r gwleidyddion a ddaeth i annerch. Cafwyd sylwadau o gefnogaeth cryf gan Elin Jones AC o Blaid Cymru a gan Trefor Jones o’r Ceidwadwyr, yn ogystal a chadarnhad o styfnigrwydd cibddall y Blaid Lafur gan Alun Davies. O dan lywyddiaeth brofiadol Kate Crocett, pasiwyd y Mesur Iaith gan y Senedd Amgen. Gobeithio yn wir y bydd pa bynnag lywodraeth a fydd ym Mae Caerdydd wedi Mis Mai yn mynd at yn ddiymdroi i sefydlu grwp i drafod Deddf Iaith Newydd, gan ddefnyddio ein mesur ni fel patrwm.
Mae’r Gymraeg yn etifeddiaeth i bawb o bobl Cymru, boed nhw’n siarad Cymraeg a’i peidio. Mae gan bawb sydd wedi dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw hawl ar yr iaith. Mae gennym ddyletswydd dros bawb yng Nghmru a thros godi eu hymwybyddiaeth hwy. Ond yn fwy fyth, mae dyletswydd arnom i drosglwyddo dyheadau pobl Cymru i aelodau’r Cynulliad ac yn bwysicach oll, i lywodraeth y Cynulliad – pwy bynnag fyddan nhw ar ol yr Etholiad. Diolch yn fawr i chi unwaith eto.
Mwy yn yr un categori(au):
Blog Hywel
.
|
|