tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gwys ar gyfer Cynghorwyr a Swyddogion Sir Gâr

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAm 10am bore heddiw, cyflwynodd Cymdeithas yr Iaith wys yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin i bedwar o brif gynghorwyr a swyddogion y Cyngor Sir. Cafodd Mark James (Prif Weithredwr), Vernon Morgan (Cyfarwyddwr Addysg), Meryl Gravell (Arweinydd y Cyngor) a Martin Morris (Dirprwy Arweinydd) eu gwysio i ymddangos gerbron Llys Iawnderau Cymunedol a gynhelir am 12.00 Llun y 28ain o Fai yn uned y Cyngor Sir ar faes Eisteddfod yr Urdd yng Nghaerfyrddin.

Mae’r wys yn cyhuddo’r pedwar o DWYLL yn y broses ymgynghorol am ddyfodol ysgolion pentrefol Cymraeg y sir.

Cafodd yr wys ei chyflwyno yn Neuadd y Sir gan y Rhingyll Swyn Dafydd, sydd bron a bod yn dair oed ac yn berchen ar wisg plismones, o Gylch Meithrin Bancffosfelen. Mae’n gobeithio mynd yn yr hydref 2008 i Ysgol Bancffosfelen sydd hefyd yn cael ei bygwth gan y Cyngor Sir.

Tu allan i Neuadd y Sir, cychwynnodd aelodau’r Gymdeithas rannu posteri “Yn Eisiau” i geisio sicrhau fod y diffinyddion yn ymddangos yn y prawf. Bydd y prawf ei hunan yn clywed gan nifer o dystion o ysgolion yn y sir sy’n credu mai twyll ar ran y Cyngor Sir oedd prosesau ymgynghori am ddyfodol ysgolion fel Mynyddcerrig. Disgwylir y dyfarniad, a dedfryd bosibl, yn eiddgar.


gwys-caerfyrddin.jpg

gwys-caerfyrddin1.jpg

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig