tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn haeddu sylw proffesiynol

bawd_deddf_eiddo.jpgMae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar Eifion Bowen, Pennaeth Cynllunio Cyngor Sir
Gâr, i derfynu'r broses o ganiatau i gwmniau datblygu fynd ati eu hunain i baratoi'r Astudiaethau Effaith ar y Gymraeg.

Dywed Angharad Clwyd, Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, yn ei llythyr at Eifion Bowen:

"Mae'n amlwg y bydd y cwmniau datblygu yn rhagfarnllyd o blaid eu datblygiadau a heb unrhyw fath o arbenigedd yn y maes. Enghraifft amlwg diweddar o'r camgymeriadau elfenol a achosir gan y diffyg arbenigedd yma yw achos Porthyrhyd lle y dywedir gan y cwmni datblygu Lovell fod yna gynydd wedi bod yng nghanran y siaradwyr Cymraeg o 55% i 64% rhwng cyfrifiad 1991 a 2001.

Camddehongliad llwyr o'r ffigyrau oedd hyn. Mae'n wir i ddweud fod cyfrifiad 1991 yn dangos mai 55% o bobl Sir Gâr oedd yn siarad Cymraeg, ond erbyn 2001 roedd geiriad y cwestiwn wedi newid.

Gofynwyd a oes gennych ddealltwriaeth o'r Gymraeg yn hytrach na a ydych yn siarad Cymraeg. Mewn gwirionedd 50% o bobl Sir Gâr oedd yn siarad Cymraeg erbyn cyfrifiad 2001.

Mae cynllunio ar gyfer y Gymraeg yn haeddu'r un sylw proffesiynol ag unrhyw faes arall, ac nid yw astudiaethau amaturaidd gan ddatblygwyr tai yn dderbyniol.

Gofynwn felly ar y Cyngor i sefydlu tim eu hunain i asesu y galw lleol am dai ac effaith datblygiad posib ar y gymuned ac ar yr iaith. Gall yr un tim fod yn gyfrifol am asesu'r effaith o gau ysgol ar gymuned ac ar yr iaith Gymraeg gan ei fod yn amlwg nad oes unrhyw arbenigedd ym maes cynllunio gan yr adran addysg chwaeth.

Hyderwn y byddwch o blaid cynyddu safonau proffesiynol y Cyngor trwy gymryd y camau hyn."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig