tafod.jpg hafan cymdeithas.com Gweddnewid y Sector Breifat
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog Hywel
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Cyhoeddi Wythnos o Adloniant yn Eisteddfod yr Wyddgrug 2007

Gigs Steddfod yr WyddgrugRadio Luxembourg, Genod Droog, Meic Stevens, Bob Delyn, Elin Fflur, Y Sibrydion, Gai Toms, Huw Chiswell, Elin Fflur, Cowbois Rhos Botwnnog, Y Ffyrc, Steve Eaves a’r Band, Brigyn…. Dim ond rai o’r dros dri deg o artistiaid fydd yn perfformio mewn wythnos o gigs fydd yn cael eu cynnal gan Gymdeithas yr Iaith yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol yn yr Wyddgrug eleni. Bydd ‘Adloniant Tafod’ yn cael ei gynnal eleni ar dir Clwb Rygbi'r Wyddgrug sydd wedi ei leoli yng nghanol tref prifwyl 2007.

flyer-gigs-steddfod.jpg

TOCYNNAU

Mae Tocynnau Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn awr ar werth. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.

GWERSYLLA + BWYD

Bydd y Gymdeithas hefyd, mewn cydweithrediad a’r Clwb Rygbi, yn trefnu maes pebyll ar y safle er mwyn rhoi dewis amgen i’r Eisteddfodwyr hynny sydd am brofi bywyd cymdeithasol tref Yr Wyddgrug yn ogystal ag ymweld â’r Eisteddfod ei hun. Bydd y rhai sy'n gwersylla yn gallu defnyddio cawodydd poeth ystafelloedd newid y Clwb Rygbi, a thoiledau glan. Bydd y Clwb ar agor drwy’r dydd ac yn darparu bwyd gyda’r nos.

GWYL GRUG

Un o’r prif atyniadau eleni fydd ‘Gŵyl Grug’, gyda bandiau yn chwarae drwy’r dydd o hanner dydd ymlaen ar y Sadwrn ola gyda Mattoidz, Derwyddon Dr Gonzo a Radio Luxembourg - brenhinoedd digymar y sin roc Gymraeg bresennol - yn uchafbwynt i’r diwrnod ac i’r wythnos. Mae’r Gymdeithas hefyd yn falch tu hwnt y bydd digwyddiadau eleni, fel sydd yn arferol, yn rhoi llwyfan i fandiau lleol a’r bandiau ifanc sydd yn ddyfodol y sin.

AMSERLEN

Sadwrn 4ydd - 8pm > 1am
Huw Chiswell
Elin Fflur
Labrinth
Monte Cassino
DJ Ian Cottrell - £8

Llun 6ed - 8pm > 1am
Steve Eaves a’r Band
Brigyn
Gwyneth Glyn
Ryan Kift - £7

Mawrth 7fed - 7pm > 11pm
Meic Stevens
Y Ffyrc
Jen Jeniro
Ian Rush
DJ Huw Stephens - £8

Mercher 8fed - 8pm > 1am
Gai Toms
Cowbois Rhos Botwnnog
Gwibdaith Hen Fran
Pwsi Meri Mew - £7

Iau 9fed - 8pm > 1am
Genod Droog
Sibrydion
Y Rei
Mr Huw
DJ Fuzzy Felt / Huw Evans - £7

Nos Wener 10fed - 8pm > 1am
Bob Delyn a’r Ebillion
Fflur Dafydd a’r Barf
Dan Lloyd a Mr Pinc
Yucatan - £7

Sadwrn 11eg - Gŵyl Grug: 12.00yh - 1.00yb
Radio Luxembourg, Derwyddon Dr Gonzo, Mattoidz, Plant Duw, Cofi Bach a Tew Shady, Calansho, Stilletoes, Y Gwyddel, Coda, Yr Ods, Endaf Presley, DJ Steffan Cravos, DJ Dyl Bili, Brwydr y Bandiau a llawer iawn mwy! - £10

MEDDAI STEFFAN CRAVOS:

"Mae’n mynd i fod yn wythnos gyffrous tu hwnt, gyda bandiau gorau Cymru ar y llwyfan bob noson o’r wythnos. A gyda maes pebyll ar y safle hefyd, does dim amheuaeth mai Clwb Rygbi’r Wyddgrug fydd y lle i fod yn ystod wythnos gyntaf Awst eleni. Gyda’r lleoliad o yng nghanol y dref gyda chysylltiadau hawdd i feysydd yr Eisteddfod, a’r line-ups cryfaf ers blynyddoedd, mae’n argoeli i fod yn wythnos a hanner! Byddai’n rhaid i chi fod yn lembo go iawn i’w methu!"

NEWID AMSER

poster-diwygiedig-gigmeic.jpg

1baner-gigs-steddfod07.jpg

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Clwyd | Newyddion
.

Newyddion
Aelodau'r Gymdeithas yn derbyn "Rhybudd Swyddogol" gan yr Heddlu ac yn ei basio ymlaen fel 'Rhybudd Olaf' i'r Llywodraeth
6 Tachwedd, 2008
Rhaid cael egwyddorion craidd Coleg Ffederal Cymraeg mewn lle
5 Tachwedd, 2008
Arestio chwech aelod o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg
25 Hydref, 2008
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Rali: Mesur Iaith Cyflawn, CAERNARFON
6 Rhagfyr, 2008
Rhagor...

nôl i'r brig