tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Llys droseddol mewn sesiwn ar faes yr Urdd

Cadwn Ein Hysgolion.JPGAm y tro cyntaf erioed, cynhelir Llys Droseddol ar faes Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf. Trefnir y Llys Iawnderau Cymunedol gan Gymdeithas yr Iaith am 12.00 Llun 28ain Mai tu allan i uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes.

Y diffinyddion fydd Mark James (Prif Swyddog Gweithredol Cyngor Sir Gâr), Vernon Morgan (Cyfarwyddwr Addysg), Cyng Meryl Gravell (Arweinydd y Cyngor), Cyng Martin Morris (Arweinydd y Grwp Llafur)

Cyhuddir y pedwar o DWYLL yn y broses ymgynghorol am ddyfodol ysgolion pentrefol Cymraeg yn y sir. Bydd Cymdeithas yr Iaith yn cyhuddo’r pedwar o fod wedi penderfynu ymlaen llaw – am resymau ariannol – i werthu’r ysgolion hyn cyn dechrau ymgynghori am eu dyfodol a bod yn broses ymgynghori felly’n anonest ac yn gyfystyr a thwyll.

Y barnwr fydd Prifardd yr Urdd Hywel Griffiths (enillydd cadair yr Urdd ym Môn 2004) a fydd yn traddodi ei ddedfryd ar ffurf farddonol. Yr erlynydd fydd Ffred Ffransis, sy’n cyfnewid ei swydd arferol mewn llysoedd fel diffinydd i fynd i’r ochr arall y tro hwn.

Tystion yr Erlyniad fydd Matt Dix (Rhiant ac Isgadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Mynyddcerrig y mae’r Cyngor wedi penderfynu ei chau ar ddiwedd y tymor hwn), Ioan Hefin (Rhiant a Llywodraethwr yn Ysgol Mynydd-y-Garreg ac Ysgrifennydd Fforwm Ysgolion Cynradd Sir Gâr) a Meinir Ffransis (Cyn-Ysgrifennydd Cyfeillion Ysgol Llanfihangel-ar-arth a gaewyd 4 mlynedd yn ôl.)

Yr ydym wedi cael sicrwydd y bydd o leaif un o’r diffinyddion – y Cyng Meryl Gravell – yn ymddangos yn y llys ar ryw ffurf neu’i gilydd !

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig