tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Apel at Weinidog Addysg newydd Cymru

Cadwn Ein Hysgolion.JPGYn ystod wythnos Eisteddfod yr Urdd bydd plant, rhieni a llywodraethwyr yn cyfrannu at ffeil i’w danfon at Weinidog Addysg newydd Llywodraeth y Cynulliad yn galw am gyfle newydd i ysgolion pentrefol.

Cyn diwedd yr wythnos, byddwn yn gwybod ai at Jane Davidson neu at ei holynydd yr anfonir y ffeil. Gwnaed y cyfraniadau cyntaf i’r ffeil – a fydd ar gael yn uned Cymdeithas yr Iaith ar faes yr Eisteddfod - gan nifer o blant Ysgol Mynyddcerrig a fydd yn cau ar derfyn y tymor hwn gan i Ms Davidson wrthod eu hapel.

Yn siarad o flaen protest am 12.00 Dydd Llun 28/5 wrth uned Cyngor Sir Caerfyrddin ar y maes, dywedodd llefarydd y Gymdeithas ar Addysg, Ffred Ffransis:

"Mae swyddogion y Cyngor Sir wedi bod yn gweithio law yn llaw gyda Llywodraeth y Cynulliad yn eu hymosodiad ar ein hysgolion pentrefol Cymraeg. Trwy wrthod pob apel, mae’r Gweinidog wedi caniatau i ddulliau ymgynghori twyllodrus y Cyngor Sir barhau."

"Yn yr etholiad, fe gollodd y Blaid Lafur bob cefnogaeth yn y cymunedau pentrefol Cymraeg ac ni allan nhw gario mlaen yn yr un ffordd. Gobeithiwn y bydd y Gweinidog Addysg newydd yn gwrando ar lais rhieni, disgyblion a llywodraethwyr a chytuno I gyfarfod brys I drafod yr argyfwng."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Caerfyrddin Penfro | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig