tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg

Urdd 2007Mae Urdd Gobaith Cymru yn galw am adolygu Deddf yr Iaith Gymraeg. Nod yr Urdd yw sicrhau y cyfle trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, i holl ieuenctid Cymru i ddatblygu’n unigolion cyflawn, a’u galluogi i chwarae rhan adeiladol yn y gymdeithas, gan feithrin sgiliau personol a chymdeithasol. Er mwyn creu’r amgylchfyd gorau i’r mudiad allu cyflawni hyn, mae’n amserol, bedair mlynedd ar ddeg wedi’r Ddeddf Iaith ddiwethaf, i adolygu’r ddeddfwriaeth, ac i ystyried cyflwyno gwelliannau iddi i’w gwneud yn fwy perthnasol i Gymru heddiw.

Fel rhan o’r ymgynghoriad gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar yr uno â Bwrdd yr Iaith Gymraeg rhai misoedd yn ôl, galwodd Urdd Gobaith Cymru am adolygiad o’r Ddeddfwriaeth bresennol yn ymwneud â’r Gymraeg.

Mae’r cysyniad o hawliau yn arbennig o berthnasol ym maes plant a phobl ifanc, ac mae’r Urdd am sicrhau’r hawl i bawb i dderbyn gwasanaeth ieuenctid, yn eu dewis iaith. Mae sicrhau gwell statws i’r Gymraeg yn y gweithle hefyd yn bwysig i blant a phobl ifanc yn enwedig y rheiny sydd yn derbyn addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, gan gofio bod cefndir ieithyddol y disgyblion yn amrywiol.

Mae gwaith yr Urdd yn rhoi cyfle i blant a phobl ifanc ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd hamdden a chymdeithasol, ac yn datblygu eu sgiliau a’u hyder ieithyddol, yn unol ag amcan ‘Iaith Pawb’ o greu cymdeithas ddwyieithog.

Gan fod pwerau newydd bellach gan y Cynulliad, dylai aelodau’r cynulliad sicrhau’r amser a’r sylw angenrheidiol i drafod ac i arwain gwelliannau yn y maes hwn. Gwyddom fod gan Iwerddon drefniant sy’n cynnwys Comisiynydd Iaith, a chredwn y gallai hwn fod yn batrwm i’w ddilyn.

Mae hefyd yn amserol adolygu’r Ddeddf yng nghyd-destun y newidiadau sydd yn digwydd ar hyn o bryd yn y maes cydraddoldeb, a’r posibilrwydd y bydd Mesur Sengl Cydraddoldeb newydd yn cael ei gyflwyno gan Lywodraeth San Steffan. Bryd hynny, bydd angen cymharu pwerau Bwrdd yr Iaith Gymraeg gyda’r pwerau a gynigir gan y Mesur Sengl ar gyfer y meysydd cydraddoldeb eraill.

Cynhaliwyd cyfarfod ar faes yr Eisteddfod ar ddydd Iau 31 Mai o fudiadau Cymraeg eraill sydd hefyd yn awyddus i rhoi cefnogaeth i ystyriaeth am adolygu'r Ddeddf Iaith, a bydd cyfarfod pellach yn digwydd ar 29 Mehefin.

Byddai croeso i fudiadau eraill ymuno hefyd yn y trafodaethau i ystyried beth fyddai’r dulliau gorau i gyflawni’r amcan hwn. Meddai Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr yr Urdd:

"Mae gan yr Urdd draddodiad hir o arwain ym mywyd diwylliannol y genedl, ac o gyfrannu mewn ffordd eithriadol o gadarnhaol i sicrhau dyfodol i’r Iaith, a’n bwriad wrth wneud y cyhoeddiad hwn yw annog gwleidyddion Cymru i sicrhau’r amgylchiadau gorau i’r Gymraeg ffynnu."

Datganiad gwreiddiol yma (pdf - urdd.org)

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Eisteddfodau | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig