Rhaid i Thomas Cook ildio
Mae Cymdeithas yr Iaith yn disgwyl y bydd y cwmni teithio Thomas Cook yn tynnu nôl yn fuan iawn oddi wrth ei safiad ar ganiatau i staff siarad Cymraeg yn ystod oriau gwaith. Os na fydd hyn yn digwydd, cynhelir protest fawr o flaen eu swyddfa ym Mangor am 1pm dydd Gwener (15/06).
Dywedodd Hywel Griffiths, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae ban Thomas Cook, yn atal eu staff rhag defnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith, yn amhosib i'w gynnal. Disgwyliwn y bydd pwysau wrth eu cwsmeriaid a chyrff cyhoeddus, yn ogystal â thwpdra eu sefyllfa eu hunain, yn eu gorfodi i dynnu nôl o fewn dyddiau, efallai yn ystod y dydd heddiw. Os na fyddant yn tynnu nôl fe fyddwn yn cynnal protest fawr o flaen eu cangen ym Mangor ddydd Gwener."
"Disgwyliwn, fodd bynnag, y byddant wedi ildio ymhell cyn hynny. Byddwn wedyn yn dychwelyd at y sefyllfa, cwbl anfoddhaol, pryd y bydd y cwmni preifat mawr hwn yn gweithredu'n gyfangwbl drwy gyfrwng y Saesneg yn ei fusnes swyddogol ac yn ei holl gyhoeddiadau yng Nghymru."
"Dim ond ar hap yn unig y bydd cwsmeriaid yn gallu digwydd cael aelod o staff i drafod eu busnes yn Gymraeg. Dyma'r unig beth fydd yn newid drwy godi'r ban hwn. Mae angen Deddf Iaith newydd i sicrhau fod cwmniau fel rhain yn darparu gwasanaeth llawn dwyieithog."
Danfonwch eich cwynion at - customer.relations@thomascook.com
Thomas Cook bans Welsh - Blog Ordovicius, 08/06/07
Spoiling the broth - Blog Gwe, 08/06/07
Rheol iaith "gwbl annerbyniol" - BBC Cymru, 10/06/07
Thomas Cook Welsh 'ban' concerns - BBC Wales, 10/06/07
Travel giant faces race inquiry - Wales on Sunday, 10/06/07
Return of the Welsh Knot - the durruti column, 10/06/07
Thomas Crook - Clecs Cilgwri, 10/06/07
Storm over language ban - Western Mail, 11/06/07
Thomas Cook face race enquiry - Blog Ordovicius, 11/06/07
Travel agency bans Welsh - Daily Post, 11/06/07
Thomas Cook - Blog y Byd, 11/06/07
Mwy yn yr un categori(au):
Deddf Iaith
|
Gwynedd Môn
|
Newyddion
.
|