tafod.jpg hafan cymdeithas.com pwysig-materion-cym.jpg
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 2.661
Ffrwd RDF (XML)
 

Deddf Iaith Wan - Dim Diolch!

Senedd CaerdyddRhwng 10am a 1pm heddiw, bydd aelodau o Gymdeithas yr Iaith Gymraeg yn lawnsio cyfnod newydd yn ei hymgyrch dros ddeddf iaith newydd i’r Gymraeg. Byddant yn dosbarthu llythr â llaw i Swyddfeydd arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad yn datgan eu bod yn argyhoeddiedig y bydd rhyw fath o ddeddf iaith newydd yn cael ei chyflwyno, ond yn galw arnynt i sicrhau y bydd unrhyw ddeddf iaith newydd a fydd yn rhan o gytundeb clymblaid yn un gyflawn a chynhwysfawr.

Byddant hefyd yn arddangos baner yn datgan 'Deddf Iaith WAN, Dim Diolch!' tu allan i adeilad y Senedd ym mae Caerdydd, ac yn dosbarthu taflenni. Caiff aelodau'r Gymdeithas eu harwain gan Gwenno Teifi (a garcharwyd llynedd am ei rhan yn yr ymgyrch dros Ddeddf Iaith newydd ) sy'n wynebu cael ei charcharu eto gan Lys Ynadon Caerfyrddin o fewn 3 wythnos (Gorffennaf 9ed).

Yn eu maniffestos etholiadol cafwyd addewidion gan Blaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Ceidwadwyr o ran deddfwriaeth newydd. Yn wyneb agwedd fwy agored Carwyn Jones, y Gweinidog Addysg, Diwylliant a’r iaith Gymraeg i drafod y mater, a’r posibiliadau o glymbleidio, mae’r hinsawdd gwleidyddol yn ymddangos yn fwy cadarnhaol.

Yn y llythyr mae Cymdeithas yr Iaith yn galw ar i arweinwyr bob plaid sicrhau nad yw’r cyfle gwirioneddol bwysig yma i newid hynt y Gymraeg yn cael ei golli. Mae’n rhaid i unrhyw ddeddf iaith newydd gynnwys ymrwymiadau i roi statws swyddogol i’r iaith Gymraeg, i greu swydd Comisiynydd Iaith, ac i sicrhau bod hawliau gan ddinasyddion Cymru i weld ac i ddefnyddio’r iaith ym mhob agwedd ar fywyd, heb hepgor yr un sector. Dywedodd Hywel Griffiths,Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith:

"Byddai cyflwyno deddf iaith newydd nad yw’n glynu at yr holl egwyddorion – statws swyddogol, creu Comisiynydd a rhoi hawliau i ddinasyddion Cymru – yn gyfystyr a chyflwyno deddf wan, aneffeithiol, ac mi fyddai’r cyfle gorau ers degawd i ddeddfu yn gadarnhaol dros y Gymraeg wedi ei golli. Bydd deddf iaith wan yn rhwystro unrhyw ddatblygiadau ystyrlon ar fater yr iaith am ddegawd arall."

"Mae’n holl bwysig fod unrhyw ddeddf iaith newydd yn gosod rheidrwydd ar gwmniau yn y sector breifat i ddarparu nwyddau a gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae agwedd warthus Thomas Cook wedi dangos yn glir mai deddfwriaeth yw’r unig ffordd i sicrhau hyn. Fel y nodir yn Mesur Iaith 2007, cydnabyddwn y byddai rhaid deddf o’r fath yn cael ei weithredu mewn modd incremental,- cwmniau mawrion, amlwladol fyddai’n cael ei heffeithio gyntaf. Mae deddf o’r fath yn gwbl ymarferol, ac yn gwbwl angenrheidiol, ac mae digon o gynsail o ran sefydlu sefydlu hawliau eisioes i’w gweld ym maes anabledd, rhyw, a rhywioldeb."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Morgannwg Gwent | Newyddion
.

Newyddion
Iceland yn Llusgo'r iaith Gymraeg yn ôl i Oes yr Iâ
19 Chwefror, 2009
Gig er mwyn Gasa
9 Chwefror, 2009
Llongyfarch cynghorwyr Gwynedd am eu parodrwydd i wrando
5 Chwefror, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Fforwm Agored - Ad-drefnu Ysgolion Cefn Gwlad
21 Chwefror, 2009
Can i Gasa: Steve Eaves, Gwilym Morus, Caernarfon
13 Mawrth, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig