tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Croesawu Ymrwymiad Clymblaid i'r Gymraeg

Rhodri Morgan a Ieuan Wyn JonesMae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi croesawu yr ymrwymiad i Ddeddf iaith Newydd sydd yn y cytundeb rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru.

Dywedodd Dafydd Lewis swyddog Ymgyrchoedd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

"Ymddengys fod yna ymrwymiad yn y cytundeb i weithio ar y cyd i sicrhau Deddf Iaith fydd yn rhoi statws swyddogol i'r Gymraeg, yn cydnabod yr hawl i dderbyn gwasanaethau yn Gymraeg, yn cydnabod yr hawl i weithio yn Gymraeg, yn cydnabod yr hawl i addysg Gymraeg ac yn sefydlu'r swydd o Gomisiynydd Iaith i Gymru."

"Wrth gwrs, rhaid cofio mai addewidion ar bapur sydd gennym ar hyn o bryd ac yr ydym yn rhagweld y bydd yna lawer o drafod caled cyn cael y maen yn derfynol i'r wal. Nid ydym am weld pasio Deddf iaith ddiwerth ar ôl yr holl ymgyrchu."

"Mae'n ddiddorol fod yr ymrwymiad yma gan Blaid Cymru a'r Blaid Lafur i'r iaith Gymraeg, yn ogystal a chefnogaeth y pleidiau eraill i'r iaith mewn dadl yn y Cynulliad ddoe, yn dod wrth i gwmni Adecco yng Nghaerdydd osod gwaharddiad ar y staff rhag siarad Cymraeg. Mae'r weithred hon fel un debyg Thomas Cook rai wythnosau'n ôl yn profi mor llipa yw'r ddeddfwriaeth bresennol."

Bydd protestiadau Cymdeithas yr Iaith yn erbyn cwmni Thomas Cook yn parhau gyda phiced yn erbyn siop y cwmni ym Mangor am 1 o'r gloch dydd Sadwrn Mai 30ain.

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig