tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Rhybudd yn erbyn colli ein cymunedau fesul ychydig

bawd_deddf_eiddo.jpgBydd Swyddog Maes Dyfed Cymdeithas yr Iaith, Angharad Clwyd, yn dweud wrth gyfarfod cyhoeddus a drefnir gan gymuned leol Waungilwen heno fod perygl i ni golli ein cymunedau Cymraeg fesul ychydig.

Mae pentrefwyr wedi trefnu Cyfarfod Cyhoeddus yn Neuadd y Ddraig Goch, Drefach Felindre, i wrthwynebu cais am ganiatad cynllunio i adeiladu tai ym mhentref Waungilwen. Wrth annerch y cyfarfod bydd Angharad Clwyd yn dweud:

"Mae gwrthdrawiad gwerthoedd yma. Mae'r gymuned leol yn gweld tai fel cartrefi, lle mae datblygwyr yn eu gweld nhw fel adnoddau i wneud elw. Maent o hyd yn ceisio gwneud y defnydd mwyaf posibl o'u hasedau drwy strategaeth o adeiladu fesul ychydig."

"Mae'r Gymdeithas yn gweld fod angen rhai tai fforddiadwy mewn nifer o gymunedau ond yn achos Waungilwen rydym yn gofyn ar y Cyngor Sir i fod yn ddigon dewr i wrthwynebu'r cais yn llwyr oherwydd y broblem llifogydd sydd yn bodoli yn y pentref. Mae'n amlwg y bydd gorchuddio'r caeau yma â choncrid yn ychwanegu at y broblem llifogydd yn ddirfawr. Fe fyddai rhoi caniatad i'r cais yma, felly, yn mynd yn groes i amcan corfforaethol y Cyngor o sicrhau cymunedau cynaladwy, sef creu sefyllfa o beryglu cymuned drwy ychwanegu at y problemau yma. Mae profiad yr wythnos ddiwethaf wedi tanlinellu'r ffaith nad yw'n gall fynd yn groes i'r amcan yma."

"Y broblem sydd yn wynebu trigolion Sir Gâr yw nad ydynt yn gwrthwynebu Cynlluniau Sirol, dim ond datblygiadau penodol. Fe fydd Cynllun newydd yn dod i rym yn 2011 sef y Cynllun Datblygu Lleol ac yn cymeryd lle y Cynllun Datblygu Unedol. Rydym yn mynd i bwyso ar y Cyngor Sir i ymgynghori ym mhob pentref ar ngynnwys y cynllun yma."

Mwy yn yr un categori(au): Caerfyrddin Penfro | Cymunedau Rhydd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig