tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Tocynnau Gŵyl Grug 2007 ar Werth Rwan!

Gigs Steddfod yr WyddgrugAeth tocynnau ar gyfer Gigs Tafod Steddfod 2007 Cymdeithas yr Iaith Gymraeg ar werth heddiw. Mae’r tocynnau ar gael o flaen llaw drwy gysylltu a Swyddfa’r Gymdeithas yn Aberystwyth (01970 624501, dafydd@cymdeithas.org) neu drwy alw heibio i’r Bar Smwddi ar Stryd Wrecsam yng nghanol tref Yr Wyddgrug.

Un o brif atyniadau yr wythnos o adloniant fydd yn cael ei gynnal yng Nghlwb Rygbi’r Wyddgrug rhwng 4 – 11 Awst eleni yw’r ŵyl undydd ‘Gŵyl Grug’, drwy’r dydd o 12 o’r gloch ymlaen ar y Sadwrn olaf. Bydd pymtheg o fandiau yn perfformio yn ystod y dydd, yn gymysgedd o fandiau newydd ac o rai o artistiaid amlycaf y sîn Gymraeg. Wedi dechrau’r diwrnod gyda ffeinal Brwydr y Bandiau 2007, bydd Endaf Presley (gynt o KAFC), Yr Ods, Coda, Y Gwyddel, The Stilletoes, Calansho yn perfformio yn ystod y prynhawn gyda DJ Steffan Cravos. Gyda’r hwyr bydd DJ Dyl Bili yn cymryd yr awenau rhwng perfformiadau gan Cofi Bach a Tew Shady, Plant Duw, Mattoidz, Derwyddon Dr Gonzo ac, yn olaf ac yn flaenaf, Radio Luxembourg.

Meddai Steffan Cravos, Swyddog Adloniant y Gymdeithas:

“Gŵyl Grug fydd uchafbwynt yr wythnos o ran Adloniant Tafod Steddfod 2007, ac yn wir o ran holl weithgareddau’r wythnos yn yr ardal. Does yr un digwyddiad arall ble bydd posib gweld cymaint o fandiau gorau Cymru mewn un lle ar yr un diwrnod. Bydd yn gyfle i bawb ymlacio drwy’r dydd i swn cerddoriaeth dda ac yn glo teilwng i wythnos o gigs sy’n argoeddi i fod yn un fyth-gofiadwy. Pa ffordd well o roffen yr wythnos na gyda Radio Luxembourg, Deryddon Dr Gonzo, Mattoids a Plant Duw?! Gyda line-up o’r fath bydd yn anodd cael tocynnau ar y diwrnod, felly byddai’n gall prynu o flaen llaw rhag cael eich siomi.”

Am fwy o fanylion pwyswch yma...

Mwy yn yr un categori(au): Adloniant | Clwyd | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig