tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Gwrthod canlyniad arolwg y BBC

BBC a'r CBIMae Cymdeithas yr Iaith wedi gwrthod canlyniadau arolwg gan y BBC sy'n awgrymu fod mwyafrif yn gwrthwynebu Deddf Iaith a fyddai'n ei gwneud hi'n ofynnol i gorfforaethau wneud defnydd llawn o'r Gymraeg. Roedd gwrthwynebiad 63% o'r rhai a holwyd yn ganlyniad i benderfyniad y BBC i ddefnyddio y gair emotif "gorfodi". O ddefnyddio gair mor niweidiol, mae'r BBC wedi rhoi hwb i ymgyrch y CBI sy'n gwrthwynebu rhoi hawliau ieithyddol i bobl Cymru.

Dywedodd Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith, Hywel Griffiths:

"Mae gan gymdeithasau cyflogwyr megis y CBI record o wrthod o flaen llaw unrhyw ddeddfwriaeth sy'n diwygio, boed yn sefydlu isafswm cyflog, parch i'r amgylchedd neu nawr yr angen i barchu'r Gymraeg. Mae'n wybodaeth gyffredin yng nghylchoedd PR fod defnyddio termau niweidiol a negyddol megis 'gorfodi' mewn arolwg yn sicrhau ymateb negyddol gan y cyhoedd. Os byddai'r cwestiwn yn cael ei arall eirio i ddefnyddio termau mwy cadarnhaol megis 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n sicrhau fod gwasanaethau yn cael eu darparu yn ddwyieithog' neu 'Ydych chi'n cefnogi Deddf Iaith a fyddai'n rhoi hawliau llawn i bobl dderbyn gwasanaethau yn ddwyieithog' yna yr ydym yn sicr y byddai mwyafrif pobl Cymru o blaid."

"Rydym ni methu deall pam fod y BBC wedi dewis cyfaddawdu ar ei ddidueddrwydd a gwneud gwaith lobio'r CBI iddynt trwy ddefnyddio geiriad mor niweidiol. A gafodd yr arolwg ei gynnal mewn Saesneg yn unig? Byddai hyn unwaith eto yn niweidio'r canlyniad mewn cymuned ddwyieithog. Y peth mwyaf arwyddocaol am yr arolwg yma ydy fod cymaint yn teimlo cyn-gryfed ar y pwnc nes i draean o'r rhai a gwestiynnwyd ymateb yn gadarnhaol, er y geiriad negyddol, a bod chwarter am fynd hyd yn oed yn bellach na Chymdeithas yr Iaith trwy osod gofyniad yn syth ar bob cwmni yng Nghymru. Yn y cyswllt hwn, mae ei cynllun o weithredu 'incremental' er mwyn sicrhau gwasanaethau dwyieithog yn y sector breifat yn un cymhedrol iawn."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig