tafod.jpg hafan cymdeithas.com gigs-bala.gif
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn Ymosod ar Sinigiaeth Aelodau Seneddol Llafur

TescoMae Cymdeithas yr iaith Gymraeg wedi ymosod ar sinigiaeth Chris Bryant ac aelodau seneddol Llafur eraill o Gymru wedi iddynt alw ar Arriva i newid trefn ieithyddol y cyhoeddiadau mewn gorsafoedd trên yng Nghymru.

Wrth longyfarch Arriva ar ddilyn polisi blaengar dros y pum mlynedd diwethaf fe ddywedodd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

* Y Gymraeg yw priod iaith Cymru felly mae'n iawn iddi gael blaenoriaeth dros bob iaith arall yng Nghymru.
* Mae Arriva yn cynnig gwasanaeth cenedlaethol ac fel corff sy'n gwasanaethu Cymru gyfan mae'n iawn iddi roi blaenoriaeth i'r Gymraeg. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol a Llywodraeth y Cynulliad yn dilyn yr un drefn, a hon yw'r drefn hefyd a ffafriwyd gan adroddiad Bowen ar arwyddion ffyrdd dros ddeng mlynedd ar hugain yn ôl.
* Mae yna reswm ymarferol dros y drefn. Mae pob siaradwr Cymraeg hefyd yn deall Saesneg. Os daw'r cyhoeddiad yn Saesneg yn gyntaf pa siaradwr Cymraeg sy'n mynd i gau ei glustiau yn ystod y Saesneg er mwyn aros am y Gymraeg? Mae rhoi'r Saesneg gyntaf yn gwneud y Gymraeg yn ddiangen yn yr achos hwn. Bydd y Di-Gymraeg yn cael y wybodaeth ychydig eiliadau ar ôl y cyhoeddiad Cymraeg.
* Mae'r drefn yn help i bobl sy'n dysgu'r Gymraeg - maen nhw'n clywed y Gymraeg gyntaf ac yn gallu rhoi cynnig ar ei gyfieithu - ac yna cael yr ateb yn Saesneg.

Dywedodd Dafydd Morgan Lewis ar ran y Gymdeithas:

"Rhesymau gwleidyddol sydd dros yr ymosodiad gwarthus hwn ar yr iaith Gymraeg gan Aelodau Seneddol Llafur. Mae'n siŵr eu bod yn eu gweld eu hunain yn colli grym yng Nghymru ac am wneud drwg i'r glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru drwy godi nyth cacwn ynglŷn ar iaith Gymraeg."

Mwy yn yr un categori(au): Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Picedu Cyngor er mwyn arbed cymuned Gymraeg
29 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn anhapus am yr oedi dros fater iaith
25 Mehefin, 2009
Cymdeithas yn croesawu Adroddiad fel cam ymlaen, ac yn gosod her i'r Llywodraeth
22 Mehefin, 2009
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd/Môn
16 Gorffennaf, 2009
Gig Carafan: Race Horses, Just like Frank, Cyfoes - Caerfyrddin
17 , 2009
Manylion Gigs Cymdeithas - Eisteddfod Bala 2009
1 Awst, 2009
Rali Flynyddol Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
24 Hydref, 2009
Rhagor...

nôl i'r brig