tafod.jpg hafan cymdeithas.com
Deiseb S4C
hafan  cysylltwch  ymaelodwch  cyfrannwch  ymgyrchwch
Ymgyrchoedd
Mudiadau Dathlu'r Gymraeg
Deddf Iaith Newydd
Cymraeg yn Hanfodol
Deddf Eiddo
Addysg
Darlledu
Gwreiddiwch yn y Gymuned
 

Adrannau
Adloniant
Blog y Cadeirydd
Codi Arian
Cyfansoddiad
Cyfarfod Cyffredinol
Gwybodaeth
Dolennau
Dy Ardal Di
Eisteddfodau
Fideo a Sain
Hanes
Maniffesto
Nwyddau
Rhyngwladol
Y Senedd
Y Tafod

Pages in English
 

Y Wefan Hon
Defnyddio'r Wefan

Movable Type 4.24-en
Ffrwd RDF (XML)
 

Trafod Deddf Iaith ac Ysgolion Pentrefol yn y Cynulliad

Senedd - CynulliadBydd aelodau o Gymdeithas yr iaith Gymraeg yn cynnal cyfarfod gyda swyddogion yn y Cynulliad Cenedlaethol heddiw am 12.30 i drafod Deddf Iaith a dyfodol Ysgolion Pentrefol. Cafwyd cadarnhad y bydd y cyfarfodydd yn mynd rhagddynt er na bydd gweinidogion yn bresennol. Dros y pedair blynedd ddiwethaf nid oedd modd trafod Deddf iaith gyda llywodraeth y Cynulliad ond yn awr mae'n amlwg fod y pwnc yn ol ar yr agenda gwleidyddol.

Yn y cyfarfod heddiw fe fydd Hywel Griffiths (Cadeirydd y Gymdeithas) Rhun Emlyn (arweinydd yr ymgyrch Deddf iaith), Ffred Ffransis ac Aled Davies (O'r Grwp Addysg) a Matt Dix - Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Mynyddcerrig a gaeir yfory.

Mae Mr Matt Dix yn ddi-Gymraeg ond y mae ei blant yn rhugl yn yr iaith ac yn ei defnyddio'n naturiol wedi derbyn addysg dda yn yr ysgol bentre. Meddai Ffred Ffransis

"Yr ydym wedi gwahodd Mr Dix i ddod gyda ni fel bod y swyddogion addysg yn derbyn tystiolaeth bersonol o werth ysgolion pentre yn addysgol ac o ran sicrhau cytgord cymunedol ac faint yw'r golled ar eu hol. Bu Llywodraeth y Cynulliad ac Awdurdodau Lleol yn pasio'r gyfrifoldeb ol a mlaen am y ddinistr a wyneba ysgolion pentrefol Cymraeg. Byddwn yn atgoffa'r swyddogion o gyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad."

"Nhw sy'n gosod y canllawiau ar gyfer cau ysgolion - canllawiau nad sydd byth yn cael eu gweithredu o ran asesu effaith cau ysgol ar yr iaith a'r gymuned leol a chwilio pob opsiwn arall. Nhw hefyd sydd wedi bygwth Awdurdodau Lleol na chan nhw ddim cyllid tuag at Welliannau Adeiladau Ysgol o 2010 ymlaen oni bai fod ganddynt gynlluniau 'rhesymoli'. Nhw hefyd sy'n gwneud yr holl gysyniad o wneud defnydd cymunedol o adeiladau ysgolion yn anhyfyw trwy fod gwahanol gronfeydd, polisiau ac adrannau i reoli addysg a datblygu cymunedol."

Mwy yn yr un categori(au): Addysg | Deddf Iaith | Newyddion
.

Newyddion
Gwnewch y PethauBychain.com - diwrnod i hybu'r Gymraeg arlein
2 Medi, 2010
Lluniau Gwyl Parc 2010
1 Medi, 2010
Hysbyseb Swydd - Swyddog Maes Morgannwg/Gwent, Cymdeithas yr Iaith
25 Awst, 2010
Mwy o newyddion...

Digwyddiadau
Cyfarfod y Grwp Deddf Iaith
3 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Ceredigion
14 Medi, 2010
Cynhadledd Un Dydd - Cymunedau Cymraeg Cynaliadwy
25 Medi, 2010
Cyfarfod Cyffredinol Rhanbarth Morgannwg-Gwent, Pontypridd
28 Medi, 2010
Cyfarfod Blynyddol Rhanbarth Gwynedd-Mon
9 Hydref, 2010
Rhagor...

nôl i'r brig